Disgwyl cyhoeddi cyfnod clo byr i Gymru yn fuan

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn deall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfnod clo byr a llym mewn ymgais i dorri ar gylchrediad coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae bwytai, busnesau bwyd ac undebau wedi galw am eglurder ynghylch cynlluniau'r llywodraeth i atal Covid-19 rhag ymledu.

Nid yw'n eglur eto pa bryd y bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud nac am ba hyd y byddai'r cyfnod clo yn para.

Dywed Llywodraeth Cymru nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith yn aros am o leiaf wythnos arall.

Mae cyfyngiadau llymach ar waith mewn 15 o'r 22 awdurdod lleol, yn ogystal ag yn Llanelli a Bangor.

Daeth y cyfyngiadau cyntaf i rym ym mwrdeistref Caerffili ychydig dros fis yn ôl, a'r rhai diweddaraf ym Mangor wythnos yn ôl.

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford: "Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd, rydym wedi dod i'r casgliad bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn golygu na allwn leddfu'r cyfyngiadau, a byddant ar waith am o leiaf saith diwrnod arall."

Ychwanegodd fod y cyfyngiadau lleol yn "gwneud gwahaniaeth cadarnhaol" ond mai'r hyn y mae'r gwahaniaeth yma wedi'i wneud ydy "arafu'r feirws yn hytrach na'i wrthdroi".

'Pobl yn poeni'

Mae'n debyg fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi briffio busnesau lletygarwch am y posibilrwydd o gyfnod clo cenedlaethol, tra bod gweinidogion wedi ymgynghori gydag arweinwyr y cynghorau lleol mewn cyfarfodydd yr wythnos hon.

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo ymrwymo i roi digon o amser i fusnesau baratoi os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda'r cyfnod clo newydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae busnesau lletygarwch wedi galw am "gefnogaeth brys i sicrhau eu parhad"

Mae grŵp o fusnesau yng Nghymru wedi anfon llythyr brys yn gofyn am eglurder gan y Llywodraeth am y sefyllfa a'r "bwriad i gyflwyno mesurau fyddai'n golygu cyfyngiadau i letygarwch".

Mae'r llythyr wedi cael ei arwyddo gan gwmni Castell Howell, bragdy Brains a'r Welsh Independent Reastaurant Collective sy'n cynrychioli dros 300 o gaffis, tafarndai a thai bwyta.

Maen nhw o'r farn fod angen "cefnogaeth brys i sicrhau eu parhad".

Dywed prif weithredwr Brains, bragdy mwyaf Cymru, y "byddai hyn yn hoelen olaf i nifer yn ein sector pe na bai cymorth ar gael yn syth".

'Trafodaethau yn parhau'

Dywedodd Gweinidog dros Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan wrth raglen y Post Prynhawn ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fod trafodaethau yn parhau, ond nad oedd disgwyl penderfyniad cyn y penwythnos:

"Ni'n edrych ar y dystiolaeth i weld be' yn union fyddai'n cael ei gyflawni pe bydde ni'n cael saib neu rhywbeth sydd yn llym a chyflym yn erbyn rhywbeth fyddai'n hirach a ddim mor llym.

"Rhaid inni gofio am yr holl ffactorau sydd angen eu hystyried wrth wneud hyn achos mae pobl yn poeni am eu swyddi a bydde'n rhaid i ni sicrhau bod na becyn economaidd yn ei le os ydyn ni'n mynd lawr y trywydd yma."

Fel rhan o gyfnod clo byr yng Ngogledd Iwerddon - cyfnod sydd yn cael ei gyfeirio ato'n Saesneg fel circuit breaker - bydd ysgolion yn cau am bythefnos yn ystod hanner tymor.

Fore dydd Iau, dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, fod y llywodraeth yn "trafod os oedd cyfnod clo byr a llym yn gam addas".

Roedd hyn yn cynnwys ystyried "pa rôl y mae addysg yn ei chwarae yn hynny i gyd ac yna bydd angen i ni roi rhybudd o flaen llaw i deuluoedd os bydd yna newid mewn amgylchiadau."

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr yr undeb arweinwyr ysgolion, NAHT fod angen i unrhyw benderfyniad "gael ei gyfathrebu yn glir i ysgolion a rhieni".

Ychwanegodd: "Mae angen iddo gael ei wneud er mwyn rhoi digon o amser i bawb baratoi ar gyfer yr effaith y gallai cau ysgolion ei chael."

'Consensws cynyddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Iau fod y mesurau sydd wedi eu gosod ar lefel lleol a chenedlaethol "gyda chymorth y cyhoedd, wedi atal ymlediad y feirws".

"Ond mae consensws cynyddol bod angen i ni nawr gyflwyno ystod wahanol o fesurau a gweithredoedd i ymateb i'r haint wrth iddo ymledu ar draws Cymru yn gynt yn ystod yr hydref a'r gaeaf.

"Rydym yn ystyried cyngor pwyllgor SAGE a'n Cell Cyngor Technegol ein hunain. Mae mesurau clo byr a sydyn i reoli Covid-19, yn debyg i'r hyn sydd yn cael ei ddisgrifio yn nogfennau SAGE, dan ystyriaeth yng Nghymru."

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfnod clo byr heb oedi pellach.

"Rydym angen datganiad brys gan y Prif Weinidog yn cadarnhau circuit-breaker i Gymru gan amlinellu beth yn union fydd ei effaith ar fywydau pobl a'u cyflogaeth.

"Tra ei bod i'w groesawu fod cynllunio yn mynd rhagddo, ni allwn wastraffu diwrnod arall wrth i ffigyrau godi i lefelau uwch."