Ffatri 2 Sisters Môn yn ailagor wedi achosion Covid-19

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae 217 o weithwyr y ffatri yn Llangefni wedi cael prawf positif am Covid-19

Bydd ffatri prosesu bwyd 2 Sisters ar Ynys Môn yn ailagor ddydd Gwener wedi i glwstwr o achosion Covid-19 ddod i'r amlwg yno fis diwethaf.

Fe wnaeth rheolwyr y ffatri benderfynu cau'r safle yn Llangefni yn llwyr am bythefnos wrth i nifer yr achosion ymysg y gweithlu gynyddu.

Mae 217 o weithwyr wedi cael prawf positif am Covid-19, allan o'r gweithlu o 560.

Dywedodd y cwmni y bydd y safle yn cael ei ailagor yn raddol, dros yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd mai'r flaenoriaeth fydd cynnal sesiynau ymwybyddiaeth am coronafeirws i'w holl staff.

Mae'r safle wedi cael ei lanhau yn helaeth dros y pythefnos diwethaf, ac mae profion am Covid-19 wedi cael eu cynnal ar draws y gweithle er mwyn sicrhau nad yw'r haint ar unrhyw wyneb.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y cwmni mai'r flaenoriaeth fydd cynnal sesiynau ymwybyddiaeth am coronafeirws i staff

Dywedodd Paddy McNaught o undeb Unite eu bod "wedi bod mewn trafodaethau helaeth gyda'r cwmni i geisio cael sicrwydd bod y ffatri yn ddiogel i'w ailagor".

"Ry'n ni wedi derbyn hynny ac yn falch o weld y prosesu yn ailddechrau," meddai.

"Mae'r cwmni wedi cydnabod eu bod angen help gan y staff i ailddechrau'r busnes ac wedi bod yn onest ac agored wrth iddyn nhw weithio gyda ni er mwyn rhoi trefniadau newydd mewn lle."

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Roedd hi'n hanfodol ein bod yn cael sicrwydd bod ailagor yn ddiogel, er mwyn y gweithwyr a'r gymuned ehangach.

"Rydw i wedi siarad â'r Arolygiaeth Iechyd a Gofal yr wythnos hon, sy'n dweud eu bod yn hyderus bod mesurau yn eu lle, ac yr un mor bwysig, y byddan nhw yno ar ôl ailagor yn monitro sut mae'r newidiadau yn cael eu rhoi ar waith.

"Fe fydda i yn cael fy niweddaru ganddyn nhw pan fydd pethau'n ailddechrau, ac mi fydda i'n gofyn i'r monitro barhau tra bo'r pandemig yn parhau'n fygythiad."