Â鶹ԼÅÄ

Trafod cynnal etholiad 2021 mewn pandemig

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Mae disgwyl i drafodaethau ddechrau'r wythnos yma am ymarferoldeb cynnal etholiad 2021 pe bai Covid-19 yn dal i fod yn bresennol.

Mae'r prif weinidog wedi ffurfio grŵp i drafod "trefniadau ymarferol" ymgyrchu a phleidleisio os ydy "cyfyngiadau'r pandemig fel pellhau cymdeithasol" yn bodoli o hyd.

Cafodd cynrychiolwyr gwleidyddol o'r Blaid Lafur, Ceidwadwyr Cymru, Plaid Cymru, Plaid Brexit a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu gwahodd i gymryd rhan.

Mae disgwyl i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 6 Mai 2021.

Dim cyfeiriad at oedi

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething eisoes wedi dweud wrth ITV Cymru ei bod hi'n bosib na fydd yr etholiad yn mynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd.

Ond nid yw'r rhaglen waith y 'Grŵp Cynllunio Etholiadau Llywodraeth Cymru' yn cyfeirio at y syniad o oedi posib.

Dywed: "Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn am gyngor ar y trefniadau ymarferol a allai fod yn angenrheidiol pe bai angen cyfyngiadau pandemig fel pellhau corfforol yn 2021 o hyd.

"Wrth wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed barn y rhai a fyddai'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd etholiadol a'r rhai sy'n ymwneud â gweinyddu'r etholiadau er mwyn i benderfyniadau gael eu gwneud gan wybod y goblygiadau i'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol.

"Y nod cyffredinol yw cynyddu cyfranogiad democrataidd i'r eithaf a hefyd amddiffyn iechyd y cyhoedd."

Mae disgwyl i'r cyntaf o'r cyfarfodydd misol gael ei gynnal brynhawn Mawrth gyda'r nod o gasglu "barn dros yr haf fel y gellir ystyried a bwrw ymlaen ag unrhyw newidiadau erbyn mis Medi".

Bydd y grŵp yn trafod materion gan gynnwys yr her o ymgyrchu gyda'r mesurau presennol yn parhau, cynnydd posib yn y bleidlais bost a chynyddu pleidleiswyr ifanc.

Yn ogystal â chynrychiolwyr o bum plaid wleidyddol, mae aelodau'r grŵp yn cynnwys y Comisiwn Etholiadol, Swyddog Canlyniadau Cymru, UCM Cymru, a Llywodraethau Cymru a'r DU.

Nid oes unrhyw gynrychiolwyr o'r pleidiau gwleidyddol eraill sydd â seddi yn y Senedd - UKIP, Plaid Genedlaethol Cymru ac Abolish the Welsh Assembly Party - wedi'u rhestru fel aelodau o'r gweithgor ar hyn o bryd.

Dywedodd ffynhonnell Llafur Cymru: "Mae yna lawer o bethau ymarferol i'w hystyried megis sut y byddai pellhau cymdeithasol yn effeithio ar bopeth o ymgyrchu i'r mynediad sydd gan arsylwyr wrth gyfrif etholiadau.

"Mae trafod gyda swyddogion etholiad a phleidiau eraill yn gam synhwyrol i sicrhau y gallwn gynnal etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021."

Mwy o ymateb y pleidiau

Dywedodd ffynhonnell ar gyfer Ceidwadwyr Cymru ei bod yn dangos bod "y Llywodraeth fethiannol hon a arweinir gan Lafur yn wyllt yn ceisio glynu wrth rym."

Ychwanegodd: "Yn lle treulio eu holl amser ac egni yn ceisio trwsio canlyniad etholiad, dylai gweinidogion ganolbwyntio ar ddelio â'r argyfwng iechyd cyhoeddus ac economaidd a achosir gan y pandemig coronafeirws."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Blaenoriaeth Plaid Cymru yw sicrhau etholiad diogel i bob pleidleisiwr yng Nghymru. Byddwn yn gweithio'n adeiladol i sicrhau etholiad teg a thryloyw, gan alluogi newid llywodraeth sydd ei angen yn fawr."

Dywed ffynhonnell Plaid Brexit: "Rydym yn awyddus i weld cyfyngiadau yn cael eu lleddfu cyn etholiad. Mae bod â gallu cyfyngedig i ymgyrchu'n ffafrio'r pleidiau mwy yn unig a fydd yn rhwystro democratiaeth."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.