Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Cartref Carol Cray yn 'gell' yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Carol Cray
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffyrdd ger cartref Carol Cray yn rhy serth iddi fynd am dro yn ei chadair olwyn

Mae dynes anabl yn dweud ei bod yn byw mewn "cell" achos fod rheolau'r cyfnod clo yn golygu nad oes modd iddi adael ei chartref.

Dywed Carol Cray, 65, nad oes modd i ofalwyr, sydd fel arfer yn ei gyrru i'r siopau, ei chludo yn eu cerbydau o achos rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Ac mae hi'n dweud ei fod yn anodd iddi adael ei chartref ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, yn ei chadair olwyn gan na all ei gofalwyr gadw pellter o 2m.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eithriadau i'r rheolau ar ymbellhau cymdeithasol, ac y byddai caniatâd i Ms Cray gael ei gyrru gan ofalwr dan y rheolau presennol.

Dywedodd y cwmni sy'n darparu gofal Ms Cray, Radis, na allai wneud sylw ar achosion unigol ond ei fod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.

'Mor flin a rhwystredig'

"Mae wir yn dechrau dweud arna'i. Alla'i ddim cymryd mwy o hyn rhagor," meddai Ms Cray, sydd ag osteoarthritis a ffibromyalgia.

"Weithiau rwy'n teimlo fel chwalu'r lle'n ddarnau achos mae rhywun yn mynd mor flin a rhwystredig."

Mae Ms Cray yn byw ar ei phen ei hun ac nid oes ganddi deulu all gynnig cymorth.

Mae hi'n derbyn Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) gan Lywodraeth y DU ac mae hi'n derbyn cymorth yn y cartref gan ofalwyr.

"Bydden nhw'n mynd â fi yn y car, i lawr i'r Swyddfa Bost, talu fy miliau," meddai.

"Bydden nhw'n mynd â fi at y deintydd, at y meddyg ac i wneud fy siopa. Ond heb 'fy merched', a char a rhywun i wthio fy nghadair olwyn, alla'i ddim mynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Carol Cray ei bod yn teimlo'n flin a rhwystredig am ei sefyllfa

Mae hi'n dweud mai defnyddio car yw'r unig ddewis achos fod y strydoedd ger ei chartref yn rhy serth iddi gael ei gwthio'n bell yn ei chadair olwyn.

"Mae'n iawn os ydych yn byw mewn fflat, ond yma yn y cymoedd mae 'na fryniau serth," meddai.

"Rhaid bod pobl eraill yn y wlad sydd yn teimlo fel fi. Rhaid i rywun godi eu llais."