Ysgolion yn paratoi am newid mawr ddydd Llun

Disgrifiad o'r fideo, Sut mae ysgolion yn paratoi i gael plant yn dychwelyd?

Ar 29 Mehefin bydd ysgolion Cymru yn ailgychwyn eu tymor ysgol wedi saib o 12 wythnos.

Gydol yr amser ers i'r cyfyngiadau gael eu cyflwyno mae plant wedi bod yn gwneud gwaith yn eu cartrefi, neu mewn hwb gofal, gyda'r mwyafrif o athrawon hefyd yn gweithio o adref.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ar 3 Mehefin y byddai ysgolion yn cael agor unwaith eto, ond gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol yn eu lle, mae stafelloedd dosbarth wedi gorfod cael eu haddasu.

Ac er bod y rhieni sydd yn dymuno i'w plant ddychwelyd i'r ysgol wedi cael gwybod y bydd yr ysgolion ar agor iddyn nhw, yn y mwyafrif o achosion mae dosbarthiadau llai yn golygu mai dim ond am ddiwrnod neu ddau neu hanner diwrnod ar y mwyaf y bydd disgyblion yn mynd yno.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Sut fydd ysgolion yn edrych o hyn ymlaen?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau wrth iddyn nhw geisio sicrhau diogelwch o fewn lleoliadau addysg. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru i gefnogi ysgolion a lleoliadau i baratoi ar gyfer yr hydref.

Mae'r canllawiau yn argymell:

  • Mai traean, ar y mwyaf, o ddysgwyr fydd yn bresennol ar unrhyw adeg;
  • Bod disgyblion i gael eu rhoi mewn i grwpiau llawer llai;
  • Bod y rhan helaeth o'r addysg yn cael ei wneud yn yr awyr agored pan fo hynny'n bosib;
  • Bod byrddau a chadeiriau yn cael eu mesur 2m i ffwrdd o'u gilydd a'u marcio'n glir;
  • Bydd angen i blant ddod â'u cyfarpar ysgrifennu eu hunain i bob sesiwn, a'u potel ddŵr eu hunain hefyd;
  • Er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r haint, dim ond un aelod o staff i weithio gyda'r un grŵp o ddysgwyr dros amser;
  • Ar gyfer plant oed ysgol uwchradd, dylai ysgolion a lleoliadau geisio sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o ddau fetr pan fo'n bosibl.

Mae disgwyl i blant ac athrawon olchi eu dwylo wrth gyrraedd yr ysgol a gydol yr amser yno.

Roedd y Llywodraeth yn awyddus i blant gael dychwelyd i'r ysgol am bedair wythnos, a oedd yn golygu y byddai'r tymor ysgol yn cael ei ymestyn am wythnos arall, hyd 24 Gorffennaf.

Fodd bynnag mae nifer fawr o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi dros yr wythnos ddiwethaf y byddan nhw'n glynu at y diwrnod cau gwreiddiol, sef Gwener 17 Gorffennaf. Fydd ysgolion Ynys Môn ddim yn ailagor am y tro oherwydd y cynnydd mewn achosion o Covid-19 mewn ffatri brosesu cywion ieir.

"Mae'r staff ysgolion i gyd wedi ymateb i'r her yn andros o dda, ac mae hynny'n wir ar draws y sector cynradd ac uwchradd," meddai Gareth Owen, sydd yn ysgrifennydd cangen NAHT Ynys Môn ac yn Bennaeth Ysgol Kingsland yng Nghaergybi.

"Mae sicrhau bod yr ysgolion yn ddiogel yn ystod y cyfnod yma wedi bod yn hynod o anodd ac mae wedi bod yn goblyn o her i ymateb.

"Beth sydd wedi bod yn greiddiol yw'r asesiadau risg. 'Dan ni wedi gorfod adnabod lle mae'r risgiau ac ymateb i hynny.

"Mae'n ddibynnol hollol ar faint ysgol dy ysgol di, ar faint dy ddosbarthiadau di, ar gapasiti dy ysgol di, ac er mwyn i ni sicrhau bod pellter cymdeithasol yn disgwyl. A dyna lle mae wedi bod yn anodd."

Pob adeilad yn wahanol

Ychwanegodd bod rhai ysgolion yn agor am dri neu bedwar diwrnod o'r wythnos ac yn cael un diwrnod i lanhau'n ddwfn.

Dywedodd hefyd bod ysgolion wedi gorfod addasu i'r canllawiau yn ddibynnol ar beth yw hyd a lled eu hadeiladau.

"Mae rhai ysgolion wedi cyflwyno systemau unffordd, mae gan rai ysgolion nifer o fynedfeydd, felly beth maen nhw'n ei wneud yw gweithio ar fynedfa ar gyfer criw o ddisgyblion fel nad oes gormod o unigolion yn cymysgu â'i gilydd.

"Mae cadeiriau meddal wedi'u tynnu allan a dodrefn mae modd eu sychu lawr yn cael eu cadw.

"'Dan ni wedi bod yn cysylltu â rhieni a tawelu meddyliau rhieni ynglŷn â'r paratoadau 'dan ni wedi bod yn 'neud er mwyn eu sicrhau bod ysgolion yn ddiogel i blant ddod nôl. "