Â鶹ԼÅÄ

Mwynhau'r pethau syml ar ôl tri mis o'r cyfnod cloi

  • Cyhoeddwyd
Ian GillFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'n dri mis union ers dechrau'r cyfnod cloi. Er bod nifer o gyfyngiadau yn dal mewn grym, wrth i'r rheolau ddechrau llacio y darlledwr Ian Gill sy'n synfyfyrio am ei brofiad o o'r cyfnod.

Daeth yr hen drefn i stop yn ddisymwth.

Fel pennod o The Prisoner, deffrodd pawb i lonyddwch aflonydd. Dim ceir ar y lôn, a phob drws ar gau. Yr hen gyfarwydd bellach yn ffilm set simsan wag, a threfn gymhleth ein bywydau prysur wedi ei barlysu a'i ddatod mewn amrantiad.

Ninnau efo dim i'w wneud ond golchi'n dwylo a threfnu cwis i ffrindiau pell ac agos ar Zoom.

Ar y dechrau, roedd y syniad o gael 'gweithio o adref' yn apelio i bobl - cael yfed faint fynnoch o goffi go iawn pryd fynnoch, tra bo' criw This Morning yn clebran yn hwyliog dros ysgwydd y gluniadur. Does bosib fod Phil a Holly'n fwy difyr na'r sgwrs yn y swyddfa? Atebion ar gerdyn post i honna, os gwelwch yn dda.

Angen dianc

Ar ryw bwynt, mae rhywun yn gorfod cael dianc o'r e-byst a'r Skype, ond os ydy'r rheiny a'ch cwsmeriaid anghwrtais yn eich dilyn o gwmpas y cartref, lle 'dych chi'n mynd wedyn?

Gan fod gymaint o fywyd - yn waith, yn adloniant, yn gyswllt â theulu a ffrindiau - wedi bod yn troelli mewn bydysawd rhith, digidol, efallai na ddylai fo fod yn syndod i ddyn droi at weithgaredd ac adloniant analog, hen ffasiwn am saib.

Mae 'na bobl 'di bod yn pobi bara am y tro cyntaf yn eu hanes, eraill wedi gadael i'w dychymyg ddianc drwy gyfrwng nofel.

Er waetha'r heip i'r cyfresi teledu The Tiger King a Normal People, mae'n rhaid i mi gyfaddef mai'r ddihangfa i mi o flerwch dyddiol y llywodraeth fu gwylio'r diweddar Bob Ross ar The Joy of Painting (Â鶹ԼÅÄ4) yn creu tirlun o goedwig neu ryw gaban bach ar ochr llyn, yn sibrwd ei gyfarwyddiadau'n dawel, a chreu byd twt, delfrydol o fewn hanner awr. Dydw i'm wedi mynd ati i afael mewn brwsh, ond dw i'm yn credu mai dyna 'di'r pwynt.

Mi ydw i wedi ail afael mewn cerddoriaeth, ar ôl sbel o beidio gwrando ar unrhyw beth heblaw am Classic FM wrth baratoi cinio, efallai. Rydym wedi cael ein pledu â ffigyrau yn ddyddiol, wrth gwrs. Ond, ganol mis Mai, gwelais linell yn y Guardian yn datgan fod cerddoriaeth Bob Marley bellach yn cael ei ffrydio 27 gwaith yn amlach nac yn y cyfnod cyn y lockdown. 27 gwaith!

Cerddoriaeth tywydd braf, optimistaidd, ac mae'n well gen i olchi fy nwylo am ugain eiliad i gyfeiliant 'Don't worry about a thing,'cos every little thing...' nag anthem genedlaethol Lloegr, diolch yn fawr.

Negeseuon syml caneuon

Ond, mae'r syniad o ddychwelyd at gerddoriaeth yn taro nodyn â mi. Am foi sy'n wrth reddf yn 'wrth-nostalgia', 'dwi 'di gwrando ar doreth o hen ganeuon reggae, funk, soul dros yr wythnosau. Rhai, am y tro cyntaf ers deugain mlynedd, eraill am y tro cyntaf erioed. Mae'n rhaid gen i fod rhywbeth huawdl o fewn eu negeseuon syml a phositif. Hynny, neu'r drymio, falle.

Yn absenoldeb y ceir â'u nadau, mae rhywun wedi rhyfeddu ar sain yr adar. Yn trydar mor daer â Piers Morgan, ond heb fod angen cweit gymaint o sylw, am wn i.

'Dwi 'di eu clywed wrth redeg drwy'r coed lawr wrth ymyl y Fenai. Fel yr hen ganeuon soul rheiny, fedra i ddim adnabod y diwn efallai, ond mae derbyn fo' nhw yno yn rhywbeth i'w drysori. A'i barchu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Am dro gyda'r teulu yn ystod y cyfnod cloi

Chawn ni byth gyfnod tebyg i hyn eto gobeithio, a 'dw i 'di bod yn ffodus o gael rhannu'r amser efo teulu. Roedd sawl un mewn panig am addysgu eu plant yn y cartref, ond gadewch i mi 'ch atgoffa o'r ddihareb 'Feddyg, iachâ dy hun'.

'Dw i'n siŵr fod ambell un wedi digalonni fod Bych cau eistedd wrth fwrdd y gegin i gwblhau tasgau o'r ysgol, ond weithiau, mae pum munud o ddistawrwydd, o gyfathrebu aneiriol, yn yr haul yn fwy buddiol a gwerthfawr i'r naill a'r llall.

Pan ddaw'r ysgolion yn ôl i drefn - yn yr hydref, efallai - mae'n ddigon posib mai DYMA pryd y bydd pethau'n teimlo'n wirioneddol chwithig. Yn dawel. Gwag. Fel mae Mynediad am Ddim yn dweud yn y gân Cyw Melyn Ola: "Does dim byd fel ro'dd e, ma' popeth o chwith..."

'Dw i 'di bod wrthi'n ymarfer yoga ers cwpwl o flynyddoedd, ac wedi parhau i ddilyn sesiynau ar-lein; ac fel mae'r athro'n dweud: "Os nad ydych am fynd allan, trowch eich sylw am i mewn". Rhywbeth fel 'na fu'r loc down i mi. Namaste.

Hefyd o ddiddordeb: