Â鶹ԼÅÄ

O'r archif: Radio Cymru yn 40 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae'r unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol yn dathlu 40 mlynedd o fod ar yr awyr. Roedd rhaglenni Cymraeg wedi bod yn darlledu ar y donfedd ganol ers yr 1930au, ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg. Ond ar fore 3 Ionawr 1977 fe aeth Radio Cymru yn fyw, ac mae'n parhau i fod hyd heddiw. Dyma rai lluniau archif i nodi'r garreg filltir ddiweddara':

Disgrifiad o’r llun,

Er mai Geraint Jones gyflwynodd y gwasanaeth i'r gwrandawyr, Gwyn Llewelyn (uchod) oedd llais cyntaf y bwletinau newyddion

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Williams yn llais cyfarwydd i ddilynwyr newyddion a chwaraeon Radio Cymru tan ei ymddeoliad yn 1982

Disgrifiad o’r llun,

Bu John Roberts Williams yn cyflwyno'r rhaglen wythnosol Tros Fy Sbectol am bron i 30 mlynedd

Disgrifiad o’r llun,

'Mr Radio Cymru' ei hun, Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd rhaglen gyntaf yr orsaf, Helo Bobol! yn 1977

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sulwyn Thomas yn cynnal ei 'Stondin' bob amser cinio am flynyddoedd ar y gwasanaeth cenedlaethol

Disgrifiad o’r llun,

Yr actorion Emyr Wyn a Dewi Pws yn 'paratoi' ar gyfer rhaglen o Dros Ben Llestri yn 1987

Disgrifiad o’r llun,

Beti George, Russel Isaacs ac Alan Pickard - cyflwynwyr rhaglenni Ar yr Awr ac O'r Newydd yn yr 1980au

Disgrifiad o’r llun,

Ian Gill, Delyth Morgan a Kevin Davies - sêr y gyfres Bambŵ ar Radio Cymru - yn 1989

Disgrifiad o’r llun,

Nia Roberts, un o leisiau mwyaf cyfarwydd yr orsaf ers dyddiau Ocsiwnia

Disgrifiad o’r llun,

Y band Cwlwm o Lambed yn 1990. Roedd ganddyn nhw eu cyfres eu hunain ar Radio Cymru bob dydd Sadwrn. Ymysg yr aelodau mae Elin Jones (ail o'r chwith), sydd bellach yn Llywydd y Cynulliad, a Shân Cothi (canol) sy'n cyflwyno ar yr orsaf heddiw

Disgrifiad o’r llun,

Garry Owen, Sian Thomas, a Gareth Glyn - cyflwynwyr rhaglen y Post Cyntaf yng nghanol y 90au

Disgrifiad o’r llun,

Rhai aelodau o griw Radio Cymru ym Mangor yn 1998

Disgrifiad o’r llun,

Eifion Jones, neu Jonsi fel roedd yn cael ei adnabod gan y genedl

Disgrifiad o’r llun,

Rebekah 'Beks' Walters a Dafydd Du - lleisiau ffres i'r orsaf yn y 90au

Disgrifiad o’r llun,

Daf Du yn arwain taith Ram Jam! o amgylch ysgolion Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Huw Stephens yn lais amlwg ar Radio Cymru - a thu hwnt - yn y degawd wedi troad y mileniwm

Disgrifiad o’r llun,

Manon Rogers, Tudur Owen a Dyl Mei - triawd mwyaf poblogaidd yr orsaf erbyn hyn?

Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Medi 2016 fe ddechreuodd gorsaf dros-dro Radio Cymru Mwy ddarlledu fel rhan o ddatblygiadau digidol yr orsaf i nodi ei phen-blwydd yn 40 oed