Beirniadu'r Urdd am barhau ag ad-drefnu er y pandemig

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei gohirio oherwydd y pandemig
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae aelod o staff yr Urdd wedi cyhuddo'r mudiad o anwybyddu lles staff trwy fwrw ymlaen â chynlluniau ad-drefnu yn ystod argyfwng coronafeirws.

Bydd rhai swyddogion maes yn colli eu swyddi ac yn gorfod ymgeisio am swydd newydd.

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi siarad ag aelod sy'n dweud na ddylai'r Urdd fod yn bwrw ymlaen ar adeg mor ansicr a bod gwneud hynny yn cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl staff.

Ond mae'r Urdd yn gwrthod cyhuddiadau'r aelod o staff "yn chwyrn".

'Dim digon o gefnogaeth'

Dywedodd yr aelod staff eu bod yn teimlo fod amseru'r ad-drefnu yn "hollol warthus" o ystyried y sefyllfa bresennol.

"Dwi'n gwybod am nifer fawr o staff sydd yn sâl, sydd yn poeni… mae'r straen oherwydd 'dyn ni ddim yn y gwaith i ddelio gyda fe a chael siawns i ddweud ein barn," meddai.

"Mae'r Urdd yn fudiad sy'n poeni am iechyd meddwl plant a phobl ifanc a ni'n 'neud hynny'n dda. Beth am wneud yr un peth gyda'n staff?"

Er fod gan y mudiad pob hawl i fwrw ymlaen â'r ailstrwythuro, mae'r aelod o staff yn poeni y bydd hi'n anodd cael swydd arall yn y misoedd nesaf.

"Mae'n anodd iawn ymgeisio am swyddi eraill, does dim swyddi yno ar hyn o bryd.

"Yr unig opsiwn sydd gen i yw mynd am rai o'r swyddi yma sy'n cael eu cynnig gan yr Urdd.

"Does dim dewis gen i oherwydd amseriad yr adolygiad a'r amserlen maen nhw wedi ei roi."

Disgrifiad o'r llun, Doedd yr aelod o staff ddim am gael ei enwi wrth gael ei holi gan raglen Newyddion

Yn ôl yr aelod o staff dyw'r Urdd ddim wedi gwrando ar bryderon staff na chynnig digon o gefnogaeth iddyn nhw.

Mae gwirfoddolwyr lleol ac undebau UCAC ac Unsain wedi codi pryderon tebyg.

Mae undeb Unsain hefyd yn dweud y gallai'r broses fod wedi bod yn haws i'r naill ochr a'r llall pe byddai'r Urdd yn cydnabod undebau llafur.

'Ymgais i bardduo enw da'r mudiad'

Mewn datganiad, dywedodd yr Urdd: "[Mae'r cyhuddiadau] yn ffeithiol anghywir ac yn ymgais i bardduo enw da'r mudiad, a hynny ar amser anodd iawn i'r mudiad a'r staff.

"Rydyn ni yn siomedig bod un person yn honni siarad ar ran holl aelodau staff Adran y Maes.

"Rydyn ni yn gwerthfawrogi bod unrhyw broses o adolygu ac ail-strwythuro yn gallu bod yn anodd a hoffem ddiolch i'n staff am eu hymateb gonest ac adeiladol.

"Mae'r mudiad wedi cynnig pob cefnogaeth i staff yn ystod y broses adolygu ac ad-drefnu, gan ddilyn canllawiau a rheolau pendant y mae gofyn i'r mudiad ddilyn mewn proses fel hon.

"Mae'r broses wedi cynnwys cyfnod sylweddol o ymgynghori trylwyr gyda staff, rhanddeiliaid a phartneriaid ac ystod o ffyrdd cyfleus o leisio pryderon, barn a sylwadau.

"Roedd y broses yn ei chanol ymhell cyn cyfnod coronafeirws a phenderfynwyd y byddai oedi neu ymestyn y broses wedi creu mwy o bryder a straen ymhlith yr adran. Rydym yn hyderus y bydd modd cwblhau'r broses yn deg ac ystyrlon er lles ein staff a dyfodol yr adran."

Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd yr Urdd y byddai'r Eisteddfod yn cael ei gohirio tan 2021 o achos y pandemig.

Dywedodd yr Urdd ar y pryd y gallai'r penderfyniad olygu "ergyd ariannol o bron i £4m" i'r mudiad.