Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • 1,044 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19, wrth i 21 yn rhagor gael eu cofnodi heddiw

  • 10,764 o bobl wedi profi'n bositif am y feirws yma bellach

  • Cyn-AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio ynysu'r henoed wrth lacio cyfyngiadau

  1. Hwyl am heddiwwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    A dyna ddiwedd y llif byw am heddiw - diolch i chi gyd am ddilyn ein diweddariadau drwy gydol y dydd.

    Fe fydd y llif byw'n dychwelyd yfory, ond am y tro, hwyl fawr i chi gyd.

  2. Cadw'r corff yn heini.....wedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cofiwch am hyn yforywedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Bydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn dathlu Diwrnod Arwyr Cymru yfory ac yn diolch i'n holl weithwyr allweddol yn ystod y cyfnod heriol yma. Dyma Aled Hughes i ddweud mwy.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Claf cyntaf yn disgrifo 'gofal ffantastig'wedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae'r claf cyntaf o Gymru gyda Covid-19 wedi bod yn disgrifio sut i'w gyflwr waethygu ar raddfa gyflym iawn.

    Bu Mark Hosking, 53 oed, o ardal Abertawe yn gorfod dibynnu ar beiriant anadlu a chael ei roi mewn coma yn Ysbyty'r Royal Free yn Llundain,

    Aeth yn sâl ar ôl dychwelyd o wyliau sgïo yn yr Eidal ym mis Chwefror.

    Dywedodd Mr Hosking, sydd ddim yn dioddef o unrhyw gyflyrau meddygol, ei fod dal yn cael trafferth anadlu chwe wythnos ar ôl gadael yr ysbyty

    Dywedodd fei bod yn bwysig i aros yn bositif: "Os ydych mor ddifrifol fel y bod yn rhaid i chi gael gofal dwys yna mae'r gofal rydych yn ei gael yn ffantastig."

    claf
  5. Esgusodion 'rhyfeddol' am deithiowedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud fod rhai aelodau'r cyhoedd wedi cynnig esgusodion 'rhyfeddol' am deithio i'r ardal yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau cymdeithasol.

    Ymysg yr esgusodion gwahanol gan bobl roedd rhai yn cynnwys teithio yr holl ffordd o Lundain, Luton a Bryste i brynu ci, a thaith i brynu castell bownsio.

    Cafodd dau berson eu dirwyo ym Mhowys am ddweud eu bod yn mynd a bwyd i berthynas yn y gogledd, ond nad oedd y cyfeiriad cywir ganddyn nhw.

    heddluFfynhonnell y llun, HEDDLU DYFED-POWYS
  6. Atal dau o Gaint yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae'n amlwg fod yr holl negeseuon am beidio â theithio yn ystod cyfnod y pandemig wedi methu a chyrraedd pawb, o'r hyn sydd gan Heddlu'r Gogledd i'w adrodd heddiw:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cysgliad am ddim o bawb cyn diwedd Maiwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Yn ystod cyfarfod llawn o'r Senedd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, bod "Cymraeg 2050 yn rhoi lle canolog i dechnoleg a dwi’n parhau i ariannu Prifysgol Bangor ym maes technoleg iaith, felly, dwi’n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Cysgliad ar gael yn rhad ac am ddim i bawb cyn diwedd mis Mai.

    Mae Cysgliad yn becyn sy’n cynnwys geiriadur yn ogystal â gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg.

    Ond weithiau, gall technoleg fod yn rhwystr er enghraifft, nid oes modd cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ym Microsoft Teams ar hyn o bryd. Rydw i wedi ysgrifennu at Microsoft i ofyn iddyn nhw ddatblygu hyn ar frys.

    Er fod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gorfod canslo pob gwers Gymraeg wyneb yn wyneb, mae’r diddordeb mewn cyrsiau ar-lein wedi cynyddu’n syfrdanol. Mewn wythnos, cofrestrodd dros dair mil o ddysgwyr newydd eu diddordeb ac fe fydd mil tri chant o’r rheiny wedi dechrau ar y cwrs y mis yma.

    Eluned Morgan AS
  8. Cyfle i holi'r gwleidyddion....wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cadwch oddi ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Llywodraeth Cymru ddim yn creu amodau i "alluogi coronafeirws i ailgydio"wedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Fydd gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ddim yn creu amodau i "alluogi coronafeirws i ailgydio", medd y prif weinidog wrth y Senedd.

    "Mae unrhyw gam y tu hwnt i'r cyfyngiadau presennol yn risg," meddai.

    Wrth ateb cwestiwn am yr economi gan Neil Hamilton o blaid UKIP, fe gytunodd y prif weinidog bod angen i'r economi fod yn agored eto ond ychwanegodd "na fyddwn ni yn creu amodau lle bydd coronafeirws yn ailgydio ac yn lledu fel tân gwyllt ymysg y boblogaeth ac yn llethu ysbytai".

    Roedd Mr Hamilton wedi awgrymu i'r prif weinidog bod angen "cymryd y risg bod cyfradd heintus coronafeirws yn parhau fel y mae, cyn belled a bod modd amddiffyn pobl fregus" er mwyn "cael yr economi yn ôl ar ei thraed".

    Cafodd y mater ei drafod wedi i Boris Johnson gadarnhau yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog y byddai'n amlinellu cynlluniau ddydd Sul i lacio'r cyfyngiadau yn Lloegr ac ychwanegodd ei fod yn gobeithio "bwrw ymlaen â'r mesurau ddydd Llun".

  11. Gwybodaeth i fyfyrwyr TGAUwedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Twitter

    Mae bwrdd arholi CBAC wedi cyhoeddi diweddariadau i fyfyrwyr TGAU yn dilyn y newidiadau sylfaenol i addysg disgyblion o achos y pandemig coronafeirws.

    Mae modd darllen y diweddaraf ar wefan CBAC:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. App newydd yn Yr Albanwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn son am app newydd NHS 24, sydd wedi ei lansio yn yr Alban er

    Yn ôl yr adroddiad mae'r ap yn cynnig gwiriwr symptomau yn ogystal â’r wybodaeth a chanllawiau diweddaraf gan Wasanaeth Iechyd yr Alban a Llywodraeth yr Alban.

  13. Apêl i achub hosbiswedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae Hosbis Dewi Sant yn y gogledd orllewin wedi lansio ‘Cronfa Adferiad’ er mwyn ceisio codi £1 miliwn er mwyn sicrhau fydd yr hosbis yn Llandudno yn medru aros ar agor.

    Hyd yn oed ar ôl derbyn cymorth ariannol oddi wrth Llywodraeth Cymru dywed yr elusen eu bod yn wynebu dyledion o fwy na £1 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn.

    Mae'r elusen wedi gorfod canslo digwyddiadau a chau 26 o siopau a dau gaffi yn Llandudno a Llangefni.

    Dywedodd Trystan Pritchard, prif weithredwr Hosbis Dewi Sant: “Mae ein Hosbis leol mewn brwydr i oroesi.

    "Rydym wedi wynebu heriau ariannol anodd yn y gorffennol ond dim un ar raddfa mor fawr â’r colledion yr ydym yn wynebu oherwydd Covid-19."

    hosbisFfynhonnell y llun, Google Maps
  14. Bundesliga i ailddechrauwedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae llywodraeth yr Almaen wedi cyhoeddi y bydd cynghrair Bundesliga yn cael ailddechrau cyn diwedd y mis.

    Un posibilrwydd yw y bydd gemau, y tu ôl i ddrysau caeedig yn cael eu chwarae ar y penwythnos 16-17 Mai.

    Cafodd y gêm olaf yn y gynghrair ei chwarae ar 11 Mawrth.

    Fe wnaeth llywodraeth y wlad hefyd gyhoeddi y bydd siopau mawrion yn cael ailagor, ac y bydd preswylwyr dau wahanol gartref yn gallu cwrdd â'i gilydd yn gyhoeddus.

    caeFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Dim teithio diangenwedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Mae pobl wedi cael eu hannog i ddilyn cyfyngiadau coronafeirws dros benwythnos gŵyl y banc.

    Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym am atgoffa'r cyhoeddi i lynu at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar deithio diangen, meysydd pebyll a charafanau, gwestai a llety gwyliau yn ogystal â'n parciau cenedlaethol.

    "Rydym hefyd am atgoffa perchnogion ail gartrefi yng Nghymru i fod yn gyfrifol ac i beidio teithio i'r cartrefi yma tan bydd y cyfyngiadau wedi eu codi."

    shankar
  16. Amrywiaeth rhanbarthol 'yn amlwg'wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Dywedodd Geoff Ryall Harvey, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wrth y Â鶹ԼÅÄ: "Roedd hi'n amlwg y byddai amrywiaeth rhanbarthol yn ymlediad coronafeirws, ac mewn tegwch mae'r bwrdd iechyd wedi cynllunio am hyn ac yn diweddaru'u cynllun yn rheolaidd.

    "Mae'n rhannol yn ymwneud ag ardaloedd gwledig, nid dim ond yng Nghymru ond ar draws y DU.

    "Ar hyn o bryd mae'n bwysicach sicrhau bod gennym gynllun profion cadarn, yn enwedig mewn llefydd fel cartrefi gofal."

  17. Marwolaethau Covid-19 yng Nghymru fesul ardalwedi ei gyhoeddi 15:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    mapFfynhonnell y llun, bbc
  18. Marwolaethau Covid-19 yn cyrraedd 1,044wedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    marwolaethau
  19. Neges gan Brif Gwnstabl y gogleddwedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. 'Symud gyda'n gilydd' i lacio mesurau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020

    Codi cyfyngiadau ar yr un pryd fyddai orau oherwydd nifer y bobl sy'n byw ger y ffin, medd gweinidog.

    Read More