Â鶹ԼÅÄ

Urdd 'heb ystyried lles a gofal' eu staff

  • Cyhoeddwyd
Baner yr Urdd

Mewn llythyr damniol sydd wedi dod i sylw Â鶹ԼÅÄ Cymru, mae Urdd Gobaith Cymru yn cael ei gyhuddo o fethu ag ystyried lles a gofal staff yn ystod proses ymgynghori dros ddyfodol swyddi yn y mudiad.

Yn y llythyr sydd wedi cael ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, ma' undebau UCAC ac Unsain yn galw ar y mudiad i oedi'r broses o gyflwyno cynllun ail-strwythuro dadleuol.

Mewn llythyr at Brif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, mae'r undebau yn galw ar yr Urdd i "oedi'r broses ymgynghori" ac yn cyhuddo'r mudiad o fethu ac "ystyried lles a gofal eu haelodau" yn y broses.

Cafodd y newidiadau i adran Ieuenctid a Chymuned (Y Maes) yr Urdd eu datgelu mewn cyfarfod emosiynol yn Llangrannog ar 29 Ionawr, gyda nifer o staff yn eu dagrau o glywed y newyddion.

Cwmni Sian Eirian Cyf oedd y cwmni a gomisiynwyd i gynnal yr adolygiad o adran ieuenctid a chymuned ac fe gyflwynwyd argymhellion ar sail yr adolygiad i fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd mis Tachwedd 2019. Cymeradwywyd yr argymhellion gan yr Ymddiriedolwyr yn ôl yr Urdd.

'Annerbyniol o fyr'

Fe fydd y staff presennol yn gorfod ceisio am swyddi newydd, gyda theitlau a chyfrifoldebau newydd yn cwmpasu meysydd chwaraeon, y celfyddydau a ieuenctid.

Yn siroedd y Gorllewin, fe fydd disgwyl i staff weithio ar draws tair sir yr hen Ddyfed, a fydd yna ddim staff parhaol wedi eu lleoli yn Sir Benfro. Yn ôl dogfen fewnol, sydd wedi cael ei gweld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, fe fydd y nifer o staff llawn amser (FTE) yn lleihau o 47 i 42.

Yn ei llythyr, mae'r undebau yn dweud nad yw'r adroddiad yn cynnwys asesiad effaith ar "les staff, cydraddoldeb, llwyth gwaith.. na'r Gymraeg".

Mae UCAC ac Unsain yn dweud bod y "cyfnod ymgynghori yn annerbyniol o fyr...ar adeg pan mae nifer o weithwyr maes i ffwrdd, yn rhan o'i gwaith gydag aelodau o'r mudiad, ar deithiau tramor. Mae hyn yn tanseilio'r disgwyliad am ymgynghoriad trylwyr ac ystyrlon gyda'r rhai sydd yn gyflogedig gan Urdd Gobaith Cymru. Hefyd rydym yn pryderu nad oes cyfle i ysgolion a chymunedau ymateb i'r ymgynghoriad."

Yn fwy damniol fyth, mae'r undebau yn dweud "nad yw'r Urdd wedi ystyried lles a gofal ein haelodau o gwbl yn ystod y broses hon."

Mae gwirfoddolwyr yr Urdd yn Sir Benfro wedi beirniadu'r cynigion yn hallt, ble mae dau swyddog datblygu yn gweithio ar hyn o bryd. Fydd yna ddim un swyddog wedi eu lleoli yn Sir Benfro, o dan y drefn newydd, gyda swyddogion yn gweithio ar draws yr Hen Ddyfed wedi eu lleoli yn Llangrannog a Chaerfyrddin.

Yn ôl Edryd Eynon, cyn lywydd yr Urdd, arweinydd aelwyd Crymych ac aelod o bwyllgor rhanbarthol yr Urdd yn Sir Benfro, mae'r cynigion yn annerbyniol: "Y prif beth yw cael gwared ar swyddogion datblygu. Mae'r swyddogion datblygu yma yn chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad yr Urdd dros Gymru gyfan.

"Nhw yw'r cyswllt personol sydd gyda ni a'r Urdd. Nhw sydd yn trefnu'r gweithgareddau a chynyddu'r aelodaeth. Siom enbyd i ni yw na fydd swyddog yn cael ei leoli yma yn Sir Benfro.

"Ni yn Sir Benfro yn teimlo ein bod yn cael ei hanwybyddu a'n gwthio a'r neilltu. Mae'n mynd i effeithio ar aelodaeth a gweithgareddau yn enw'r Urdd."

Mae Emyr Phillips sydd wedi gwirfoddoli gyda'r Urdd ers 40 mlynedd hefyd yn dweud nad yw gwirfoddolwyr wedi medru cyfrannu at y broses o lunio'r strwythur staffio newydd: "Doedd dim ymgynghoriad wedi cymryd lle, ag ystyried bod yr Urdd yn fudiad, nid yn fusnes, sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr."

Cymeradwyo argymhellion

Doedd yr Urdd ddim yn barod i wneud cyfweliad ar y cynllun ailstrwythuro.

Mewn datganiad fe ddywedodd y mudiad: "Fe wnaeth yr Urdd gomisiynu cwmni annibynnol i gynnal proses o adolygu Adran Ieuenctid a Chymunedau'r Urdd yn 2019.  

"Pwrpas yr adolygiad oedd cynnal arolwg agored o'r adran er mwyn sicrhau fod yr Urdd yn parhau i gynnig y profiadau a'r cyfleoedd gorau posib i blant a phobl ifanc Cymru ynghyd ag edrych i'r dyfodol wrth i ni anelu at ddenu cynulleidfaoedd a phartneriaethau newydd.

"Ymgynghorwyd gydag ystod eang o ran-ddeiliaid yn cynnwys  staff a gwirfoddolwyr yn ystod 2019 ac fe gymeradwywyd argymhellion arfaethedig yr adolygiad gan Ymddiriedolwyr yr Urdd ym mis Tachwedd 2019.

"Mae'r Urdd bellach wedi cyflwyno argymhellion yr adolygiad i staff yr adran ac rydym nawr mewn cyfnod o ymgynghori gyda'r staff. Proses fewnol yw hon ac nid yw'n addas felly i'r Urdd wneud unrhyw sylw pellach nes bo'r broses wedi ei chwblhau."

Mewn datganiad pellach, cadarnhaodd yr Urdd: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn llythyr gan ddwy undeb ac fe fyddwn yn ymateb yn briodol.

"Cwmni Sian Eirian Cyf oedd y cwmni a gomisiynwyd i gynnal yr adolygiad o adran ieuenctid a chymuned ac fe gyflwynwyd argymhellion ar sail yr adolygiad i fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd mis Tachwedd 2019. Cymeradwywyd yr argymhellion gan yr Ymddiriedolwyr."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall bod y cyfnod ymgynghori i staff wedi cael ei ymestyn tan 20 Mawrth yn dilyn pwysau gan yr undebau ac eraill.