Â鶹ԼÅÄ

Coronafeirws: Gohirio Eisteddfod yr Urdd tan 2021

  • Cyhoeddwyd
Urdd

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gohirio tan 2021 o achos y sefyllfa bresennol gyda coronafeirws.

Fe all y cyhoeddiad olygu "ergyd ariannol o bron i £4m" i'r mudiad.

Dywed y mudiad y bydd tri gwersyll yr Urdd yn cau am y tro, ac fe fydd holl eisteddfodau lleol a rhanbarthol yr Urdd yn cael eu canslo hefyd.

Mae pob cystadleuaeth chwaraeon cenedlaethol a phob gweithgaredd gymunedol hefyd wedi eu canslo nes bydd rhybudd pellach.

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis: "Mae'n siom enbyd i ni i gyd orfod cau ein gwersylloedd a chanslo ein digwyddiadau, ond mae diogelwch a lles ein staff, ein haelodau a'n cefnogwyr yn flaenoriaeth llwyr.

"Ein bwriad nawr yw mynd ati i ddiogelu'r mudiad trwy gynllunio dyfodol cynaliadwy a defnyddio ein hynni, ein hymrwymiad a'n gwerthoedd i helpu Cymru i ymdopi â'r argyfwng hwn.

"Bydd y mudiad, a ffurfiwyd bron i ganrif yn ôl ar egwyddorion o ymrwymiad cadarn i Gymru a chyd-ddyn, yn trafod y sefyllfa bresennol gyda gweinidogion y llywodraeth a hefyd yn edrych ar sut y gellid defnyddio'r Urdd a'i staff i ymateb i'r heriau cynyddol sy'n wynebu'r henoed a'r bregus yng Nghymru yn nghysgod y feirws hwn."

Bydd Eisteddfod yr Urdd nawr yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ym mis Mai 2021 ac mae'r Urdd "yn trafod yn barhaus gyda'i bartneriaid darlledu, S4C a Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, o ran yr opsiynau i ddathlu doniau'r aelodau ar blatfform gwahanol yn 2020" medd y mudiad.

Dywedodd yr Urdd fod "canslo digwyddiadau mawr a chau'r gwersylloedd yn naturiol yn cyflwyno heriau ariannol sylweddol i'r Urdd" ac mae amcangyfrif cychwynnol yn awgrymu y "bydd ergyd ariannol o bron i £4m yn dilyn cyhoeddiadau heddiw".

"Bydd symud Eisteddfod Dinbych i 2021 yn golygu y bydd Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 2021 rŵan yn symud i 2022," meddai llefarydd.