Nigel Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

Ffynhonnell y llun, Nigel Williams

Nigel Williams, cyfarwyddwr â chwmni bwydydd Castell Howell, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Neil Rosser wythnos diwetha'.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Llaeth a bisgedi Rich Tea yn ysgol feithrin Llandeilo.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Wonder Woman.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Bod rhywun â chyn lleied o enwogrwydd â fi wedi cael ei enwebu i 'Ateb y Galw'!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Heno, gwylio rhaglen Lle Aeth Pawb? a gweld Tammy Jones yn canu ei chyngerdd ola' - heb glywed amdani ers dros 40 mlynedd ond yn dod nôl â llawer o atgofion o'r cyfnod.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Tammy Jones, oedd yn enwog yn y 60au a'r 70au, yn canu ei chyngerdd olaf

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gormod i'w rhestru ond, yn arbennig, checio sawl gwaith bod popeth bant cyn gadel y tÅ·. Gorfod paratoi i adel 10 munud cyn bod angen er mwyn delio 'da hyn!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Harbwr Wdig ger Abergwaun - cofio mynd am droeon prynhawn dydd Sul gyda'n rhieni a Tadcu a Mamgu i faes parcio Wdig. Mae fy ngwraig yn dod o Dinas Cross sydd ond ychydig filltiroedd bant a ry'n ni'n cael cyfle i fynd yno'n rheolaidd.

Ffynhonnell y llun, Nigel Williams

Disgrifiad o'r llun, Nigel gyda'i ferched Anest a Meleri ger Harbwr Wdig

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas a chael canu Brawd Houdini gyda Neil Rosser a'r Band.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Difrifol, dwl, gonest.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Day of the Jackal gan Frederick Forsyth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Sai'n credu fod un ohonynt yn yfed(!) ond petawn yn cael cyfle, y ddau dadcu - yn anffodus gwrddais i byth â Jim, tad fy mam - i gael dod i'w hadnabod yn iawn.

O Archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Fi sy'n canu ar record Dyffryn Tywi, Eryr Wen.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gyrru draw i Dinas a chael barbeciw a sawl botel o win yn yr ardd gyda'r teulu.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Harbwr Aberteifi gan Hergest. Mae'r dôn a'r geirie yn creu delwedde cryf yn fy meddwl ac rwy'n hoff iawn o ganeuon Derec Brown. Hefyd yn fy atgoffa o gig cyntaf Eryr Wen gyda Rocyn ym mhwll nofio Aberteifi yn 1981.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cawl, Spaghetti Bolognese fy ngwraig a threiffl fy mam-yng-nghyfraith.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Huw Chiswell - credu bod fy merched, Meleri ac Anest, yn dwlu arno fe'n fwy na fi!

Disgrifiad o'r llun, Ydy Nigel yn gallu canu a chanu'r piano cystal â Chis...?

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Ioan Hefin