Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Malcolm Allen

  • Cyhoeddwyd
Malcolm Allen

Yr wythnos yma y cyn bêl-droediwr a'r sylwebydd Malcolm Allen sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw, wedi iddo gael ei .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chwarae tu ôl y tŷ yn Deiniolen, mewn rhyw gwt o'dd Mam 'di ei wneud i ni. O'n i'n mynnu dianc a mynd i'r maes parcio tu ôl y tŷ i chwarae ffwtbol - o'n i'n hogyn drwg o'r dechrau!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Nia yn Ysgol Uwchradd Brynrefail.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan ges i fy nghap cynta dros Gymru yn erbyn Saudi Arabia o'n i'n hogyn ifanc, dim ond 18 o'n i. 'Nath Kevin Ratcliffe, Mark Hughes, Neville Southall a rhai o'r chwaraewyr hÅ·n eraill dd'eud wrthai ei fod yn draddodiad i bwy bynnag oedd yn ennill ei gap cynta redeg ar y cae yn gynta'.

Felly wnes i fel hogyn ifanc naïf goelio nhw a rhedeg allan ar y maes i arwain y tîm. Roedd gweddill y tîm 'di aros yn y twnel ac yn chwerthin arna i - embarrassing iawn.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm yn chwarae i Gymru yn erbyn Rwmania yn 1993

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

18 mis yn ôl pan wnaeth mam farw.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi di bod efo catarrh ers blynyddoedd maith, sy'n gwneud i rywun fflemio - ma'n afiach.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Trefdraeth yn Sir Benfro. Mae 'na gwrs golff neis yna ac hefyd traeth hyfryd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O'n i efo carfan Watford a'r rheolwr Graham Taylor yn China. Roedden ni gyda Elton John, oherwydd fo oedd Cadeirydd Watford ar y pryd.

Do'n i ddim rhy hoff o'r bwyd allan yno, a nes i ac ambell un arall lwyddo i ga'l chef personol Elton John i gwcio stêc hyfryd i ni.

Gawson ni gyngerdd arbennig gan Elton - just ni y chwaraewyr. Pan o'n i'n bwyta ac yn gwrando ar Elton, na'th Iwan Roberts (o'n i'n rhannu stafell efo fo ar y pryd) ddad-sgriwio top y botel halen oedd ar y bwrdd. Dyma fi wedyn yn tollti'r halen dros y stêc perffaith 'ma i gyd... aetho ni ati i gwffio ar y llawr o flaen pawb, gyda gweddill y garfan yn edrych arna ni.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Malcolm yn haeddu ambell i stêc gan 'chef' personol Elton John ar ôl sgorio llond trol o goliau i Watford

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Parchus, hapus a chyfeillgar.

Beth yw dy hoff lyfr?

Hunangofiant cynta' José Mourinho - gwych.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy boxer shorts 'Spiderman'. Nes i wisgo nhw i wneud yr 'Ice Bucket Challenge'.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Joy' efo Robert De Niro, r'odd o'n ofnadwy.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Tim Robbins - roedd o'n wych yn 'The Shawshank Redemption'.

Disgrifiad o’r llun,

"Pryd mae'r 'kick-off' ar gyfer y coroni?"

Dy hoff albwm?

Albyms 80au y Jackson 5 - atgofion da.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be fyddai'r dewis?

Prif gwrs, cyri bob tro. Wrth fy modd efo vindaloo.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Guy Ritchie. Dwi'n hoff o'i ffilms o, a dwi hefyd yn licio y ffordd mae o'n cadw ei fywyd yn breifat. Roedd o'n briod i Madonna ond doeddech chi byth yn darllen lot amdano fo yn y papurau newydd.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Iwan Roberts.