Â鶹ԼÅÄ

Neil Rosser sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma

  • Cyhoeddwyd
Neil RosserFfynhonnell y llun, Neil Rosser

Y canwr Neil Rosser sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Rhai atgofion o'r dosbarth derbyn yn Ysgol Lôn Las. Cofio cael stŵr am doddi crayons ar y radiator.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Y ferch oedd yn canu i'r band Blondie - Debbie Harry.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Crasho beic modur yn ystod prawf beic modur. Digwyddodd e yn ystod yr emergency stop. Roedd yr arholwr yn sefyll wrth ochr yr hewl. Cododd ei law fel arwydd fy mod yn gorfod stopio'r beic yn 'sydyn ac yn saff' ac fe wnes i'r darn cyntaf yn unig.

O'n i'n gorwedd yn yr hewl a dath e lan a gweud 'I am terminating the test'. Boi da. Byth wedi bod yn dda iawn gydag arholwyr.

O Archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wastad mewn angladdau, gormod o emosiwn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o gig coch. Yfed gormod o win coch. Yfed gormod o goffi cryf. Sawl peth. Braidd dim arferion da i fod yn onest.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Y Vetch (cyn iddyn nhw ddymchwel y lle). Dyna lle'r oedd tim pêl-droed gorau Cymru yn arfer chwarae. Cartref ysbrydol y Swans, ac roedd pawb yn gorfod sefyll i wylio'r gêm.

Disgrifiad o’r llun,

Caeodd Y Vetch yn 2005. Roedd yr Elyrch wedi chwarae yno ers 1912

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y gig gorau erioed oedd yn y Glamorgan Arms ym Mhontarddulais yn ystod Eisteddfod Abertawe.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Penderfynol, ystyfnig, gwahanol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

One Flew over the Cuckoo's Nest. Ma' Jack Nicholson yn wych.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Michelle Obama. Class act.

Disgrifiad o’r llun,

Efallai fyddai Michelle Obama yn hoffi mynd am win coch gyda Neil yn y Glamorgan Arms, Pontarddulais?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Hoff iawn o waith coed. Dysgu sut i droi bowliau ar hyn o bryd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ffili gweud.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Free Falling gan Tom Petty. Ma' fe'n bositif iawn a ma'r gitârs yn grêt. Dylse pawb wrando ar eiriau caneuon Tom Petty.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

King prawns, Stecen, Caws Camembert. Dim pwdin. Digon o win coch.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Itha licio'r syniad o bod yn Viking jest am ddiwrnod. Odd y bois 'na yn gwbod sut i fyw - 'Ragnar Lodbrok'.

Disgrifiad o’r llun,

Tybed sut fyddai Neil yn edrych gyda dillad ffwr a mwy o wallt...?

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Nigel Williams