Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Rhodri Siôn

  • Cyhoeddwyd
rhodri

Y cerddor a'r actor Rhodri Siôn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Bod mewn pram sdreips coch a gwyn ar stryd yn Lerpwl lle nes i dreulio blynyddoedd cyntaf fy mywyd i, yn gwisgo het haul glas a shades, yn gafael mewn hufen iâ.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Lorraine Kelly.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pi-pi yn fy nhrowsus mewn cwch rhwyfo yng Nglan-llyn. Bai Osian oedd o am rwyfo ffor' rong.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mis Ionawr 2017.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi fy ewinedd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri gyda'r Big Leaves yn y 1990au

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Uwchben Waunfawr ar y ffordd i fyny Moel Eilio. Gweld tuag at Ben Llŷn i'r chwith, Caernarfon yn y canol a Sir Fôn i'r dde. Llefydd pwysig i mi yn deuluol.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gwersylla uwchben Nice gyda fy ngwraig. Pryd anhygoel ym mhorthladd Monte Carlo, gyrru wedyn i'r gwersyll drwy dwneli ffyrdd Monte Carlo, wedyn yfed gwin coch o flaen y babell ar glogwyn yn edrych i lawr ar y bae. Hyfryd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Chiclyd, swil, obsesiynol.

Beth yw dy hoff lyfr?

Fools Die, Mario Puzo.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Jackson Pollock - er mwyn deall mwy am ei bersbectif unigryw fel artist, y criw oedd o'n hongian allan hefo, Efrog Newydd yn y cyfnod, y bwyd - dwi'n deall ei fod o'n dipyn o gogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Moel Eilio ger Waunfawr, lle mae Rhodri yn gallu gweld y mannau pwysig yn ei fywyd

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Room.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gafael yn dynn yn fy mhlant.

Dy hoff albwm?

Transformer, Lou Reed.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Prif gwrs, Curry Thai da, gyda llwyth o flas ac arogl anhygoel.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Jürgen Klopp.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Mirain Haf Roberts.