Disgyblion: 'Cymwys am oes'

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ elvis

Fe ddylai plant Cymru fod yn "gymwys am oes" yn ôl cynllun newydd sydd â'r nod o wella perfformiadau disgyblion rhwng 3-19 oed.

Fe fydd y gweinidog addysg Huw Lewis yn amlinellu ei weledigaeth yn ddiweddarach ddydd Iau.

Bwriad cynllun Cymwys am Oes ydy gosod gweledigaeth y Llywodraeth hyd at y flwyddyn 2020 gyda'r nod y bydd pob disgybl yn elwa o ddysgu rhagorol.

Yn gynharach eleni roedd yna feirniadaeth gan Pisa, y corff sy'n cymharu perfformiad disgyblion ledled y byd, o'r llywodraeth am y diffyg gweledigaeth tymor hir o ran addysg.

Mae disgwyl y bydd Mr Lewis yn newid y targed mae'r llywodraeth wedi ei osod ar gyfer perfformiad Cymru o ran tablau Pisa.

Ar hyn o bryd y nod ydy cyrraedd yr 20 gwlad uchaf sy'n rhan o'r profion o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Fe roedd Cymru o gwmpas y safle 40 allan o 68 y llynedd.