Â鶹ԼÅÄ

'Sgiliau Pisa yn allweddol i lwyddiant' medd Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, PA

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog ddweud bod profion Pisa yn allweddol i blant yng Nghymru ddangos y bod modd llwyddo yn unman ar draws y byd.

Bydd Carwyn Jones a'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn siarad mewn cynhadledd addysg yng Nghaerdydd ddydd Mercher, i geisio dangos pwysigrwydd y profion er mwyn gwella perfformiad ysgolion.

Mae Cymru wedi perfformio waethaf o wledydd Prydain yn y profion, sy'n cael eu cynnal bob tair blynedd.

Mae'r grŵp sy'n gyfrifol am y profion, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), wedi beirniadu llywodraeth Cymru am "" ym myd addysg.

Perfformiad 'siomedig'

Fe wnaeth 500,000 o ddisgyblion mewn 68 gwlad gymryd profion Pisa mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen yn 2012.

o wledydd Prydain, gyda gwledydd a rhanbarthau Asia yn cynnwys Shanghai, Singapore a Taiwan yn cyrraedd brig y tabl.

Yn siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Carwyn Jones mai sgiliau Pisa yw'r rhai y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.

"Sgiliau Pisa yw'r sgiliau y mae pobl ifanc eu hangen i lwyddo nid yn unig yng Nghymru, ond yn unman yn y byd," meddai.

"Dyma'r nodweddion y mae cyflogwyr yn dweud wrthym ni y maen nhw eisiau; maen nhw'n allweddol wrth baratoi ein pobl ifanc i ddysgu gydol eu hoes.

Codi safonau

"Felly ydyn, maen nhw'n bwysig. Maen nhw'n dweud wrthym ni fel gwlad sut ydyn ni'n gwneud gyda'n pobl ifanc."

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis bod newidiadau wedi eu gweithredu i sicrhau "gwelliant brys" ym mherfformiad disgyblion.

"Mae'n rhaid i ni wella safonau a chanlyniadau i ddisgyblion ar bob lefel ym mhob ysgol," meddai.

Dywedodd hefyd: "Mae'n bosib i ni godi safonau ond dim ond os fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i'r un cyfeiriad."

Bydd y gynhadledd, fydd yn cynnwys 160 o brifathrawon o Gymru, hefyd yn clywed gan Gyfarwyddwr Addysg a Sgiliau'r OECD, Andreas Schleicher, sy'n gyfrifol am brofion Pisa.