Â鶹ԼÅÄ

'Bargen newydd' i wella safonau dysgu

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi pa gymorth proffesiynol fydd ar gael i athrawon er mwyn gwella safonau mewn ysgolion.

Fe gyhoeddodd Huw Lewis y "fargen newydd" ar gyfer athrawon mewn datganiad i'r Senedd.

Mae'r mesurau yn cynnwys cynlluniau i gefnogi datblygiad proffesiynol athrawon, gan gynnwys hyfforddiant mewn swydd parhaol.

Mae ymyrraeth y gweinidog yn dilyn cyhoeddiad adroddiad beirniadol o'r gyfundrefn addysg yng Nghymru gan yr OECD.

Roedd yr adroddiad yn feirniadol o safonau athrawon yng Nghymru, gan ddweud fod diffyg opsiynau ar gyfer athrawon i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Mwy o barch

Yn ôl yr adroddiad mae angen i'r proffesiwn ddenu mwy o barch.

Fe ddywedodd yr adroddiad hefyd bod ysgolion yn ei chael hi'n anodd denu athrawon talentog, oherwydd safon y myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau hyfforddi.

Pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ebrill, dywedodd y gweinidog mai datblygiad proffesiynol athrawon oedd yr "agwedd fwyaf beirniadol" o'r adroddiad.

Dywedodd Huw Lewis: "Rwy'n bryderus nad oes gennyn ni'r rhwydwaith cefnogi iawn ar gyfer y bobl broffesiynol sydd yn gweithio mewn ysgolion ac rydw i eisiau gwneud yn siŵr fod ganddynt bopeth sydd angen arnynt."