Â鶹ԼÅÄ

Cyflwyno system newydd raddio ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Ysgol

Bydd y system ddadleuol o fandio ysgolion yn dod i ben a bydd ysgolion yn cael eu graddio mewn ffordd newydd.

O fis Ionawr ymlaen bydd ysgolion uwchradd a chynradd yn cael eu rhoi mewn categori coch, oren, melyn neu wyrdd yn dibynnu ar nifer o fesuriadau.

Yn ôl gweinidogion, bydd y system newydd yn defnyddio ystod fwy eang o ddata dros dair blynedd i raddio'r ysgolion.

Mae undebau wedi croesawu'r newid, gan ddweud y bydd yn rhoi darlun gwell o berfformiad ysgolion.

System liwiau

Cafodd y system fandio ysgolion ei lansio yn 2011, gyda'r nod o ddarganfod pa ysgolion uwchradd oedd yn llwyddo a pha rai oedd angen cymorth i wella eu perfformiad.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Huw Lewis: "Mae fy adran wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion i sicrhau ein bod yn datblygu dull ar draws y system gyfan i gefnogi a herio ysgolion.

"Mae'r arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion hefyd yn cael eu hystyried. Mae egwyddorion Bandio yn rhan annatod o'r system."

Roedd bandio yn un o bolisïau mwya dadleuon y cyn weinidog addysg, Leighton Andrews, ac yn ôl rhai fe wnaeth wella presenoldeb.

Ond mae ysgolion hefyd wedi dadlau fod y system yn anwadal - gyda rhai ysgolion yn neidio o fand pump i fand un o fewn blwyddyn.

Rŵan, bydd y system honno'n cael ei hail-wampio a bydd ysgolion yn cael eu rhoi mewn pedwar categori - coch, oren, melyn a gwyrdd.

Os yw ysgol yn y categori coch, mae angen iddi wella'n sylweddol.

Cynnwys ysgolion cynradd

Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i'r system fandio, bydd ysgolion cynradd hefyd yn cael eu cynnwys o hyn ymlaen

Y 25% o ysgolion sy'n perfformio orau fydd yn y categori gwyrdd i ddechrau, ond o dan y drefn newydd mae'n bosib i bob ysgol symud i'r categori gwyrdd yn y pen draw, petawn nhw'n gwella digon.

Yn wahanol i'r system fandio, bydd ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd yn cael eu graddio o fis Ionawr ymlaen.

Yn debyg i'r system fandio, bydd ysgolion yn derbyn sgôr yn dibynnu ar fesuryddion fel eu perfformiad mewn rhifedd, llythrennedd a chanran presenoldeb eu disgyblion.

Ond bydd y wybodaeth hefyd yn cynnwys hunanwerthusiad gan yn yr ysgol ei hun, fydd yn ystyried pethau fel asesiadau o'i hathrawon a chryfder yr arweiniad yn yr ysgol.

Bydd hwnnw yn cael ei fonitro a'i fesur yn erbyn tystiolaeth gan swyddogion addysg leol a phanel cenedlaethol.

Gwahaniaeth pwysig arall yw y bydd data dros dair blynedd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu ym mha gategori y mae ysgolion bob blwyddyn.

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Lewis y byddai'r system newydd yn rhoi data fwy dibynnadwy ar ysgolion

Yn ôl Llywodraeth Cymru dylai'r polisi newydd atal hynny gan ddarparu cyd-destun yn ogystal ag ystadegau.

Y gobaith yw y gall ysgolion sy'n goch ddysgu gan ysgolion gwyrdd, a bydd disgwyl i'r ysgolion yn y categori uchaf ddarparu cymorth a chyngor i'r ysgolion yn y categorïau is.

Dywedodd undeb ATL Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi gweld "o'r diwedd" bod angen "system llawer mwy deallus" i raddio ysgolion.

"Rydyn ni'n falch bod y system fandio hurt wedi dod i ddiwedd," meddai'r cyfarwyddwr, Dr Philip Dixon.

Dywedodd ei fod yn glir bod y "labelu amrwd" a'r newidiadau "chwerthinllyd" roedd rhai ysgolion yn eu gweld yn dangos nad oedd bandio yn addas i'w bwrpas.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar Addysg, Simon Thomas hefyd wedi croesawu'r newid fel "cam i'r cyfeiriad cywir er mwyn safonau uwch".

Ychwanegodd bod "dal angen gwelliant mewn mesur a chodi safonau addysg".

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg, Aled Roberts, ei fod yn croesawu'r newid o'r system fandio "o'r diwedd".

Dywedodd fod y blaid wedi bod "yn galw am hyn drosodd a throsodd yn y ddwy flynedd diwethaf".

"Bydd sefydlogrwydd gwleidyddol yn hollbwysig i lwyddiant y system newydd ac mae arnom ni hynny i bawb yn y proffesiwn i wneud yn siŵr bod y model categoreiddio newydd yn cael cyfle i sefydlu ei hun."