Cynllun addysg: Diddymu nod yr 20 uchaf

Disgrifiad o'r llun, Y gweinidog addysg, Huw Lewis, lansiodd gynllun i godi safonau addysg i blant rhwng 3 a 19 oed.

Fe ddylai plant Cymru fod yn "gymwys am oes" yn ôl cynllun newydd sydd â'r nod o wella perfformiadau ysgolion.

Bwriad cynllun Cymwys am Oes gafodd ei lansio gan y gweinidog addysg, Huw Lewis, yw codi safonau i blant rhwng 3 a 19 oed.

Ond mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r gweinidog am gael gwared ar y nod o gyrraedd 20 uchaf profion Pisa erbyn 2015.

Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth addysg llywodraeth Cymru hyd at 2020, gyda'r nod y bydd "pob disgybl yn elwa o ddysgu rhagorol."

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar bedwar amcan strategol er mwyn sicrhau gwelliannau:

  • gweithlu cryf,
  • maes llafur sy'n ennyn diddordeb,
  • cymhwysterau sy'n cael eu parchu ar draws y byd,
  • arweinyddion addysg sy'n cyd-weithio er mwyn gwella safonau.

'Addysg ragorol'

Mae codi safonau llythrenedd a rhifedd eisoes wedi cael eu nodi fel blaenoriaethau gan y llywodraeth yn dilyn perfformiad gwael Cymru ym mhrofion Pisa - y system sy'n profi gallu disgyblion ledled y byd.

Dywedodd Mr Lewis: "Mae buddiannau system addysg wych yn amlwg."

Ychwanegodd bod "addysg o safon uchel yn gallu gwella'r economi, cynyddu lles cyffredinol a chreu cymdeithas decach a mwy llwyddiannus. Dyma beth rydw i eisiau ei weld yn digwydd yng Nghymru.

"Mae'r ddogfen Cymwys am Oes yn nodi fy ngweledigaeth y bydd plant yng Nghymru yn mwynhau addysg sy'n eu hysbrydoli i lwyddo, mewn cymuned addysgol sy'n cyd-weithio ac yn ymgeisio i fod yn wych, a ble y bydd potensial pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei ddatblygu."

PISA: NEWID TARGED

Mae llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar y targed i gyrraedd 20 uchaf profion Pisa erbyn 2015.

Roedd Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU yn y profion gwyddoniaeth, mathemateg a darllen gafodd eu rhyddhau fis Rhagfyr y llynedd.

Sgôr gyfartalog Cymru yw 468. Nawr, mae'r gweinidog addysg, Huw Lewis wedi gosod targed o 500 erbyn 2021. Ar gyfartaledd, dyma'r sgôr ymysg gwledydd yr OECD.

Fe sgoriodd Yr Alban fwy na 500 pwynt y llynedd, sy'n golygu mai targed newydd Cymru yn 2021 fydd cyrraedd lle'r oedd Yr Alban y llynedd.

Atgyfnerthu blaenoriaethau

Mae'r cynllun Cymwys am Oes yn dweud sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur cynnydd a gwelliannau.

Bydd y dulliau o wneud hyn yn cynnwys cyhoeddi Cerdyn Adroddiad Addysg Cymru bob blwyddyn

Fe fydd y cerdyn yn nodi sawl arwydd o berfformiad da a pha mor llwyddiannus y mae Cymru wedi bod wrth geisio cyrraedd y targedau.

Mae'r cynllun diweddaraf yn dilyn y prosiect Gwella Ysgolion gafodd ei gyhoeddi yn 2012 gan amlinellu'r newidiadau i'r system addysg yng Nghymru hyd at 2015.

Ymateb y gwrthbleidiau

Mae'r ymateb i gyhoeddiadau dydd Iau, yn enwedig y newid yn nharged profion Pisa, wedi bod yn chwyrn ymysg y gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd.

Fe feirniadodd y Ceidwadwyr Cymreig Huw Lewis am "newid ei feddwl" wedi iddo ddweud ym mis Rhagfyr na fyddai'r targed yn newid.

Yn ôl Angela Burns, llefarydd addysg y blaid, "Uchelgais fawr Llafur nawr yw codi Cymru o'r safle gwaethaf i'r ail waethaf erbyn 2021.

"Nid uchelgais yw hon, ond diffyg tŵf. Mae'r targed tila hwn yn dangos diffyg uchelgais ar ran pobl ifanc."

Fe ddywedodd Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol:

"Yn y gorffennol, mae'r gweinidog addysg wedi dweud y byddai newid y targed yn dangos diffyg uchelgais. Eto'i gyd, dyma mae o wedi ei wneud heddiw...

"Yr wythnos ddiwethaf, fe welon ni'r ffars bandio ysgolion yn cael ei roi o'r neilltu, wedi taerineb cyson y byddai'n aros.

"Mae angen i lywodraeth Cymru gyflwyno ychydig o gysondeb".

'Rhy uchelgeisiol'

Fe groesawodd Plaid Cymru y cyhoeddiad.

Roedd targed llywodraeth Cymru i gyrraedd 20 uchaf Pisa erbyn 2015 "yn rhy uchelgeisiol" yn ôl Simon Thomas, llefarydd y blaid ar addysg.

Ychwanegodd: "Dwi'n falch bod y gweinidog addysg wedi derbyn hyn o'r diwedd, ac wedi gosod disgwyliadau realistig...

"Ers tro, mae Plaid Cymru wedi galw ar i lywodraeth Cymru gynnig gweledigaeth addysg hirdymor, a dw i'n gobeithio fod cyhoeddiad y gweinidog heddiw yn arwydd bod strategaeth heriol a chyraeddadwy ar y gweill."