Â鶹ԼÅÄ

Llywodraeth yn prynu Maes Awyr Caerdydd am £52m

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Ellis Roberts

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn prynu Maes Awyr Caerdydd am £52 miliwn.

Ond nid y llywodraeth fydd yn rhedeg y maes awyr, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ym mis Rhagfyr dywedodd Mr Jones fod y llywodraeth "wedi dod i gytundeb" gyda TBI, perchnogion y maes awyr.

'Sail fasnachol'

Roedd y pryniant yn dibynnu ar "gwblhau ystyriaethau ariannol, cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian".

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Jones fod sicrhau dyfodol y maes awyr yn hanfodol.

"Ni fydd y maes awyr yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd enw'r prif weithredwr yn cael ei gyhoeddi maes o law ond yn y cyfamser mae Yr Arglwydd Rowe-Beddoe wedi cytuno i fod yn gadeirydd bwrdd y maes awyr."

Ychwanegodd Mr Jones y byddai'r maes awyr yn cael ei redeg "hyd fraich ar sail fasnachol".

'Gwladoli'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies: "Dwi ddim yn siwr ai gwladoli fel yn y saithdegau yw'r ateb i'r holl broblemau."

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott, eu bod wedi clywed ychydig o sylwadau Mr Jones dros y misoedd diwethaf a'u bod bellach yn gwybod "y pris".

"Ond mae angen sylwedd, cynlluniau hir dymor y llywodraeth er mwyn denu cwmnïau, ymwelwyr a busnes i'r maes awyr.

"Dwi'n dymuno'r gorau i'r llywodraeth yn eu hymgais i redeg y maes awyr a'i wella ond fe fyddwn i wedi gobeithio cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau erbyn hyn."

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud: "Mae'n gywir mewn egwyddor fod gan y llywodraeth ran yn ein hisadeiledd er mwyn sicrhau bod y maes awyr yn gweithredu er lles gorau'r economi.

'Manylion'

"Ond mae angen i ni weld y manylion."

Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins: "Er mwyn cystadlu ar y llwyfan ryngwladol mae angen isadeiledd o'r safon ucha' a rhan allweddol o hyn yw maes awyr rhyngwladol modern ac effeithiol.

"Mae angen maes awyr all hybu buddsoddi ac arwain at dwf economaidd.

"Yn y cyswllt hwn, mae angen arweiniad masnachol cadarn ac mae apwyntio'r Arglwydd Rowe-Beddoe yn gychwyn addawol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol