Â鶹ԼÅÄ

Cwestiynau am werth cytundeb llywodraeth i brynu maes awyr

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru am brynu'r maes awyr sydd ym Mro Morgannwg

Mae cwestiynau wedi eu codi ynglŷn â chynllun Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd.

Daw'r cwestiynau gan arweinwyr busnes sy'n holi a fydd y cytundeb yn werth am arian, tra bod maes awyr Bryste am gael sicrhad na fydd Caerdydd yn derbyn cymhorthdaliadau.

Ac mae arbenigwr yn y maes yn cwestiynu a ddylid gwario'r arian ar wella ffyrdd sy'n arwain at y maes awyr.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi addo y bydd y maes awyr yn cael ei redeg ar sail fasnachol gan gwmni ar ran y llywodraeth ac fe fydd yn allweddol i ddatblygu'r economi.

Dydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gan gwmni TBI.

Dywedodd Mr Jones na fyddai'n derbyn cymhorthdal ac y byddai'n rhaid i drethdalwyr elwa o'r cytundeb.

Ond dywedodd Conffederasiwn y Busnesau, y CBI, y byddan nhw'n ystyried yn ofalus a fyddai cael maes awyr sy'n eiddo cyhoeddus yn beth da.

Hwb i'r economi

"Fe allwn ni ddeall cymhelliad y Prif Weinidog dros gymryd cam mor fawr," meddai Emma Watkins, cyfarwyddwr Cymru'r CBI.

"Dydi'r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy.

"Mae busnesau eisiau maes awyr deinamig, ffyniannus sy'n helpu i ddenu buddsoddiad a hybu'r economi yng Nghymru."

Dywedodd nad ateb tymor hir fyddai i'r llywodraeth brynu'r maes awyr a bod 'na berygl y gallai'r trethdalwr fod ar eu colled os na fyddai'r fenter yn llwyddo.

Fe ddywedodd Robert Sinclair, Prif Weithredwr Maes Awyr Bryste, fod gwladoli'r maes awyr yn mynd yn gwbl groes i'r tueddiad byd-eang.

Ac mae Laurie Price, ymgynghorydd cynllunio meysydd awyr yn amheus a fyddai newid perchnogaeth yn cynyddu nifer y defnyddwyr.

Cysylltiadau trafnidiaeth

Mae'n credu y byddai'n well gwella'r ffyrdd at y maes awyr a'r cysylltiadau i'r Rhws ym Mro Morgannwg, rhyw 15 milltir o ganol y brifddinas.

"Mae lleoliad a maint y farchnad yn atyniadau i gwmnïau hedfan," meddai.

"Dyna pam bod Heathrow, Manceinion a Birmingham yn gwneud mor dda, yn ddibynnol ar draffyrdd.

"Byddai gwella'r cysylltiad gyda'r M4 yn sicr o fudd i Gaerdydd gan gynyddu'r gysytadleuaeth yn syth gyda Bryste."

Ond dywedodd Peter Cole, Cyfarwyddwr Strategaeth Capital Region Tourism, ei fod wedi ei galonogi gan gyhoeddiad y llywodraeth.

Dywedodd ei fod yn "bwysig" i'r wlad gael maes awyr llwyddiannus a bod y Prif Weinidog wedi bod yn "gweithio'n galed" gyda rheolwyr y maes awyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol