Â鶹ԼÅÄ

Cwmni Helvetic ddim yn hedfan o Gaerdydd i'r Swistir

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru am brynu'r maes awyr ar ôl cwymp yn nifer y teithwyr

Fydd Helvetic, cwmni o'r Swistir, ddim yn dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd yn yr haf.

Daw hyn ddwy flynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru wario £500,000 ym marchnata Cymru yn Y Swistir.

Cychwynnodd y cwmni hedfan i Zurich o Gaerdydd yn 2011.

Maen nhw eisoes wedi dod â'r gwasanaeth dros y gaeaf i ben o ganlyniad i alw isel a fyddan nhw ddim yn hedfan rhwng y ddwy ddinas yn ystod yr haf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "na fyddai'n addas" gwneud sylw ar benderfyniad Helvetic "tra bod y broses o brynu'r maes awyr yn destun gwaith ymchwil".

Disgrifiad,

Dylan Jones yn holi Alun Cairns, AS Bro Morgannwg

Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi yn 2012 eu bod yn ystyried prynu'r maes awyr ar ôl gostyngiad yn nifer y teithwyr.

Naw mis wedyn roedd y gwasanaeth yn galw ym Mryste ar y ffordd am nad oedd 'na ddigon o deithwyr o Gaerdydd a dros y gaeaf dim ond o Fryste yr oedd yn hedfan.

Fe fydd y gwasanaeth o Fryste yn parhau.

Dywedodd y cwmni eu bod yn trafod ailddechrau gwasanaeth yn 2014.

Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg Alun Cairnes wedi dweud wrth raglen y ei fod yn bwriadu cysylltu â'r cwmni o'r Swistir i drafod eu penderfyniad i beidio â dychwelyd i Faes Awyr Caerdydd yn yr haf.

Dywedodd fod y newyddion yn "ergyd unwaith eto i'r maes awyr".

"Yn amlwg dwi'n siomedig.

"Byddaf yn cysylltu â'r cwmni bore 'ma."

Uno dau faes awyr

Yn y cyfamser mae adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynllun hirdymor am faes awyr a fyddai'n cymryd lle'r un yng Nghaerdydd a'r un ym Mryste.

Yn ôl awgrym gan Sefydliad Materion Cymreig fe fyddai adnoddau newydd yn ardal Aber Hafren a fydd yn cymryd lle'r ddau faes awyr presennol.

Mae'r adroddiad hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen i brynu Maes Awyr Caerdydd oddi wrth y perchnogion, grŵp Abertis o Sbaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad bod angen i Gymru a Lloegr gydweithio

Cafodd yr adroddiad ei wneud gan yr ymgynghorwyr awyr MSP Solutions ar ran y Sefydliad.

Mae'n nodi bod angen "maes awyr modern 24 awr y dydd yn ardal Aber Hafren a fyddai'n gallu gwasanaethu de orllewin Prydain gyfan" ac yn delio â theithwyr a nwyddau.

Fe fydd y cais yn cael ei gyflwyno i Gomisiwn Meysydd Awyr Llywodraeth San Steffan sy'n astudio meysydd awyr Llundain.

Mae'r adroddiad yn nodi y gallai'r ddarpariaeth yn Llundain olygu "gwaethygu'r cysylltiad awyr ar gyfer Cymru a Gorllewin Lloegr".

"Byddai datblygiad yn nwyrain Llundain yn arwain at golli cystadleuaeth i'r ardaloedd eraill, oni bai bod 'na lefel newydd o ddarpariaeth hedfan yn cael ei greu ar gyfer de Cymru a'r gorllewin."

Mae awduron yr adroddiad yn credu y gallai'r maes awyr newydd gael ei adeiladu ar gyrion Aber Yr Hafren rhwng Casnewydd a Chas-gwent ac yn delio gyda 10-11 miliwn o deithwyr y flwyddyn o'r cychwyn petai'r ddau faes awyr arall yn cau.

"Does 'na ddim un maes awyr ar hyn o bryd all ateb y galw tymor hir na thymor canolig ar gyfer Cymru a de orllewin Lloegr," meddai'r adroddiad.

"Mae angen i Gymru a de orllewin Lloegr weithio gyda'i gilydd i ddatblygu ymateb ar y cyd a fydd i'w weld mewn maes awyr newydd ar gyfer de orllewin Prydain gyfan."

Dywedodd llefarydd Trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott, AS ei bod yn siomedig ynghylch penderfyniad Helvetica "yn enwedig wedi i Lywodraeth Cymru wario £500,000 i'w helpu hyrwyddo'r gwasanaeth".

Ychwanegodd ei bod yn hapus i weld fod Vueling yn ehangu eu gwasanaeth ym maes awyr Caerdydd.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos i mi fod gan y maes awyr botensial os byddwn ni'n gallu adnabod y llwybrau a'r cludwyr iawn," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol