Â鶹ԼÅÄ

'Her fawr' wrth brynu Maes Awyr Caerdydd?

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru brynu Maes Awyr Caerdydd dros y misoedd nesa'

Mae ystadegau newydd yn awgrymu bod her fawr yn wynebu Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw fynd ati i geisio prynu Maes Awyr Caerdydd.

Mae ffigyrau cychwynnol yr Awdurdod Hedfan Sifil yn dangos bod mwy o deithwyr sy'n teithio yn ôl ag ymlaen o Gymru yn defnyddio Maes Awyr Bryste yn hytrach na'r safle yn y Rhws.

Yn ôl ystadegau blaenorol, roedd ychydig dros filiwn o deithwyr wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn ystod 2012 - gostyngiad o ryw 200,000 ers 2011.

Roedd bron chwe miliwn wedi defnyddio Maes Awyr Bryste yn ystod yr un cyfnod.

Ond mae'r ffigurau newydd yn awgrymu bod ychydig yn fwy o deithwyr oedd yn teithio'n ôl ac ymlaen o Gymru wedi defnyddio Bryste yn hytrach na Chaerdydd yn ystod hanner cynta'r flwyddyn.

Amcangyfrifir fod hyn yn cyfateb i ryw 1.1 miliwn o deithwyr dros gyfnod o flwyddyn.

Mae'r ystadegau wedi'u seilio ar arolwg yr Awdurdod Hedfan Sifil o deithwyr ym Mryste, arolwg yr oedd y maes awyr wedi ei roi i Aelodau Cynulliad.

Pryderon

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth ar Faes Awyr Caerdydd dros y misoedd nesa'.

Maent yn ceisio cytuno ar bris gyda'r perchnogion Abertis o Sbaen wrth iddyn nhw hefyd edrych ar gyfrifon y maes awyr.

Er bod Maes Awyr Bryste mewn sefyllfa gryfach, mae maer y ddinas yn pryderu y gallai pryniant Llywodraeth Cymru greu cystadleuaeth annheg.

Mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics y Â鶹ԼÅÄ, dywed George Ferguson fod gan y ddau faes awyr broblemau ond y byddai'n well petaent yn cydweithio.

"Rwyf o blaid cystadleuaeth ar bob cyfri, does gen i ddim cwyn hefo hynny, ond yr hyn yr hoffem ni weld ydy cystadleuaeth deg.

'Perygl'

"Y perygl yw y bydd Cymru'n rhoi cynigion arbennig ar dreth ac yn y blaen ac na fydd hynny'n deg.

"Dyna, rwy'n credu, ydy pryder Maes Awyr Bryste.

"Ond mae gennym ddau faes awyr anfoddhaol yn fy nhyb i.

"Does yna'r un ohonyn nhw mewn lleoliad da. Dydw i ddim yn argymell maes awyr ar foryd fel mae Boris yn sôn amdano ond byddai'n wych petai modd cyfuno'r ymdrechion.

"Ond y broblem yw bod un safle o dan berchnogaeth breifat ac un sy'n mynd i fod yn gyhoeddus ac mae hynny'n mynd i wneud cydweithio yn anodd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "penodi tîm o ymynghorwyr arbenigol a chontractwyr, sy'n cynnwys KPMG ac Eversheds" i'w helpu gyda'u hymchwil.

"Fel yr ydym wedi dweud droeon, fyddai ddim yn addas gwneud unrhyw sylw pellach ar y pryniant arfaethedig tra'n bod ni'n cynnal y gwaith ymchwil hwnnw."

"Petai'r cyfle yn dod yn y dyfodol, byddem yn hapus i edrych ar y posibilrwydd o gydweithio rhwng y ddau faes awyr."

Mae'r Â鶹ԼÅÄ hefyd wedi gwneud cais am ymateb gan Feysydd Awyr Caerdydd a Bryste.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol