Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Gwenno Mair Davies Anrhydeddu Gwenno yn ei bro
Dathliad i'r ferch amddifadwyd o seremoni goroni
Tudur Aled, William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog a Iorwerth Glanaled yw'r enwau a gerfiwyd ar gofgolofn yn sgwâr pentref Llansannan.

Ond yr wythnos diwethaf yr oedd rhywun wedi ychwanegu enw newydd uwchben y rhestr hon ar gofgolofn enwog Syr Goscombe John i anrhydeddu enwogion y fro.

Enw Gwenno Mair Davies - y ferch a enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd 2005 - ond na chafodd ei choroni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Ac ar yr arwydd ffordd yn dynodi eich bod wedi cyrraedd Llansannan yr oedd rhywun hefyd wedi ychwanegu'r geiriau "Cartref Gwenno, Enillydd Coron yr Urdd".

Rhan o'r gynulleidfa A nos Iau, Mehefin 23, daeth cymuned at ei gilydd i longyfarch ac anrhydeddu Gwenno gan lenwi Canolfan Bro Aled.

Methu disgwyl
Ac yr oedd y croeso a'r edmygedd i lenor ymhlith ei phobl ei hun yn siŵr o fod yn rhagori ar unrhyw beth y gallai Canolfan y Mileniwm ei gynnig.

Eglurodd Alwyn Williams, arweinydd y noson, mai ym mis Medi y bydd yr Urdd yn coroni Gwenno yn swyddogol a rhoi "y sylw cenedlaethol dyledus iddi" ond na allai trigolion Llansannan ddisgwyl tan hynny i'w llongyfarch.

Er gwaethaf yr helyntion ynglÅ·n a'r Goron eleni dywedodd fod Gwenno "yn ferch deilwng iawn ohoni" fel y dangosai sylwadau'r beirniaid.

Cyfarchion y beirdd
A chydag Ann, mam Gwenno, yn gapten tîm Talwrn y beirdd Llansannan doedd dim prinder prydyddion i longyfarch y teilyngdod hwnnw ac yn eu plith ei hewythr, Emrys Williams, a oedd, meddai, gyda Gwenno yn gwylio seremoni'r coroni yng Nghaerdydd.

"Y drasiedi fwyaf yw i Gwenno gael ei hamddifadu o gofio codi yn y pafiliwn mawr i gymeradwyaeth y gynulleidfa yno," meddai.

Talwyd teyrnged i Gwenno hefyd gan gyn athrawes o Ysgol y Creuddyn a gyfeiriodd at aeddfedrwydd mynegiant a threiddgarwch yn ei sgrifennu ers yn blentyn ifanc iawn.

Ffermwyr ifaincCymerwyd rhan hefyd gan gôr ffermwyr ieuanc yr ardal yn canu, O, mae;r goron ar dy ben a Chôr Bro Aled yn canu I bob un sy'n Ffyddlon "oherwydd bod yna dair coron" yn yr emyn hwnnw!

Ac ar noson fel hon doedd neb yn mynd i anghydweld pan ddywedwyd:
"Hei lwc yr enilli di eto y flwyddyn nesaf - mewn modd llai dramatig."

Cliciwch i weld lluniau o'r noson.



Hefyd:





About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý