Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Daniel Evans Camp dramodwyr
Mewn theatr mae grym
Cafwyd teyrnged gofiadwy i ddramodwyr a'r theatr yn ystod seremoni Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd.

Daniel gydag enillydd y Fedal Ddrama Aeth yr actor Daniel Evans ati i ateb ei gwestiwn pryfoclyd ei hun, "Pam gwobrwyo dramodydd?", ar gychwyn y seremoni gan ddadansoddi nid yn unig bwysigrwydd ond grym y theatr - hyd yn oed y dyddiau hyn pan yw'n ymddangos mai ffilm a theledu yw'r meistradoedd.

Dyma a ddywedodd:
"Pam gwobrwyo dramodydd?
Yn wir, pam ysgrifennu drama o gwbl?

Wrth gwrs, dywed Shakespeare mai pwrpas drama oedd "dal drych, fel tae, i natur" ac mai "byr a chynhwysfawr groniclau'r dydd" oedd actorion.

Ond yn ein hoes amlgyfryngol ni o ffilm a theledu - dau gyfrwng sy'n addo arian mawr - y chwaer dlawd yw'r theatr wastad.

Ac eto, tystia y protestio a fu yn Theatr y Birmingham Rep ddechrau eleni fod gan theatre bwer a grym - y tu hwnt i'r cyfryngau eraill efallai.

Pigo cydwybod ac ysgwyd enaid cymdeithas fu hanes y theatre erioed.

Pan adawodd Nora ei ThÅ· Dol, yn nrama Ibsen, dywed rhai yr atseiniai clep y drws ar draws Ewrop y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gyd.

Yn wir, haws gennym oddef themâu a storiâu ar ffilm, teledu a radio nag y gallwn yn y theatr.
Pam?

Wel, rwyf am ddadlau nad yn unig y ffaith mai hen, hen, gyfrwng yw'r theatr, cyfrwng sydd yn pontio swydd y cyfarwydd yma yng Nghymru yn y canol oesoedd a'r Groegiaid yn eu masgiau ar ddechrau gwareiddiad, ond am mai cig a gwaed yw actorion.

Wrth eu gwylio yn trawsnewid eu hunain o flaen ein llygaid, wrth iddynt ddadlennu darnau o'u hunain er mwyn ein diddanu, ein profocio neu'n symud, y ffaith ein bod ni gynulleidfa yn yr un ystafell, wedi'n gwneud o'r un defnydd a'r actorion, sydd yn rhoi i'r theatr ei hunigrywiaeth a'i dynoliaeth.

Felly, gwobrwyed dramodwyr - yn enwedig rhai ifanc.

Y rhain fydd yn dal y drych i natur ein hoes ni," meddai.

Ennill y Fedal Ddrama




About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý