Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Y gadair Dangos Cadair Arfau
Bydd cadair wedi ei gwneud o reiffls yn cyrraedd Eisteddfod yr Urdd ddydd Mercher.


Bydd yn cael ei dangos am y diwrnod ym mhabell Cymorth Cristnogol.

fghYn eiddo i'r Amgueddfa Brydeinig mae'r gadair - a wnaed yn llwyr o arfau rhyfel - ar daith o amgylch gwledydd Prydain er mwyn hyrwyddo achos heddwch.

"Cafodd yr Orsedd Arfau - Throne of Weapons - ei gwneud yn 2001 o arfau a gasglwyd ers diwedd y rhyfel cartref ym Mosambique yn 1992," eglurodd Branwen Niclas, Swyddog Ieuenctid gyda Chymorth Cristnogol yng Nghymru.

Y mae'n symbol o ymgyrch trawsnewid arfau yn offer defnyddiol a gychwynnwyd gan yr Esgob Dinis Senguale o Gyngor Cristnogol Mozambique ar y cyd a Chymorth Cristnogol yn 1995.

"Yr hyn a wnaeth Senguale oedd gwahodd pobl i ddod a'u harfau iddo ef i'w ffeirio am bethau eraill.

"Er enghraifft, byddai'n rhoi hadau am fwledi neu beiriant gwnio am wn," meddai.

Casglwyd gwerth £600,000 o arfau dan y cynllun hwn .

Er mwyn hyrwyddo'r cynllun, sy'n cael ei alw yn Transformaça de Armas en Enxadas y gwnaed yr Orsedd Arfau allan o reiffls Portiwgaeg a darnau o Ak47s Rwsiaidd.

Branwen NiclasY mae gorsedd o'r fath o arwyddocâd arbennig yn Affrica gan fod cadeiriau addurnedig o'r fath yn arwydd o awdurdod a phwysigrwydd.

Bydd arwyddocâd ychwanegol iddi yng nghyd-destun Eisteddfod yr wythnos hon, wrth gwrs.

Mae'r gadair yn cael ei harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd tan Fehefin 5.

"Y mae'r gadair a gweithiau celf eraill sydd wedi eu gwneud o arfau yn ffordd o dynnu sylw pobl ifainc a'u cael i sylweddoli beth yw arwyddocâd gynnau ac arfau," meddai Branwen Niclas. Dawnsiwr, Branwen

Ac er mwyn lledaenu'r neges bydd Cymorth Cristnogol yn rhannu cardiau post gyda llun y gadair arnyn nhw i blant eu hanfon adref i'w teuluoedd a'u ffrindiau.

"Bydd y cardiau sydd am ddim ac wedi'u stampio yn ffordd o ledaenu'r neges o droi arfau yn weithiau celf ac yn bethau buddiol i ddatblygu bywyd," meddai Branwen Niclas sydd yn defnyddio cerflun bychan o ddawnsiwr wedi ei wneud o arfau pan yn cynnal gweithdai gyda phlant.

Gyda Chymorth Cristnogol hefyd comisiynodd yr Amgueddfa Brydeinig "Goeden Bywyd" o arfau sydd i'w gweld yng Nghwrt Mawr yr amgueddfa.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý