Â鶹ԼÅÄ

Trên Bach i rai heb bwff

Paratoi'r Maes

11 Mai 2010

Ymhlith y nifer o atyniadau "newydd a chyffrous" ar faes Eisteddfod yr Urdd 2010 yn Llanerchaeron bydd trên bach.

Bydd Trên Bach y Maes yn cludo Eisteddfodwyr o amgylch y Maes," meddai Aled Siôn, cyfarwyddwr yr Wyl.

"Ar fwrdd Trên Bach y Maes, bydd cyfle i Eisteddfodwyr ymlacio wrth iddynt deithio o amgylch Maes yr Eisteddfod a thiroedd bras Llanercheron a hynny yng nghwmni tywyswr arbennig fydd â stori ddifyr i'w hadrodd am bob twll a chornel," meddai.

GwyddonLe

Atyniadau newydd arall fydd y GwyddonLe, gweithdai samba a mwy o fandiau byw nag erioed o'r blaen.

Wrth gyhoeddi bod y pafiliwn cystadlu ar ei draed Mai 10 dywedodd:

"Y pafiliwn cystadlu fydd canolbwynt y Maes, fel arfer , ac oddi amgylch bydd unedau lliwgar sy'n gwerthu ac arddangos nwyddau, llwyfannau perfformio a theatr byw."

Ychwanegodd y bydd digon yn GwyddonLe newydd ar gyfer yr hen a'r ifanc o arddangosfeydd gwyddonol i gystadlaethau, gan gynnwys gweithgareddau yn ymwneud â Chysawd yr Haul wedi ei ariannu gan STFC (Cyngor Adnoddau Gwyddoniaeth a Thechnoleg) gyda chefnogaeth gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a'r gymuned yn ehangach.

Dysgwyr

"Cyfuniad hwyliog o weithgareddau ar gyfer Dysgwyr a gweithgareddau llenyddol eu naws fydd yn y Cwtch Cymraeg.

Bydd rhai o gymeriadau Pentre Bach ac eraill yn y gornel stori, murlun geiriau, rhai o awduron mwyaf adnabyddus Cymru'n darllen eu gwaith, gweithdai cyfrifiadurol neu ymlacio gyda phaned o de. Bydd arddangosfa hefyd o holl waith buddugol y cystadlaethau gwaith cartref llenyddol," meddai.

Dringo

"A bydd Pentre Mistar Urdd, fel arfer yn fwrlwm o weithgaredd gyda chyfle i ddringo wal ddringo arbennig Gwersyll Glan-llyn, neidio ar drampolîn yr Urdd neu blasu un o'r coctels ffrwythau newydd. Bydd atyniadau eraill yn cynnwys, clown, paentio wynebau, siop, balŵns a chornel liwio. Ac wrth gwrs, yn y Pentre bydd cyfle i gwrdd ag un o gymeriadau pwysicaf Cymru, neb llai na Misatr Urdd! " ychwanegodd.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.