Â鶹ԼÅÄ

Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!

Catrin Finch - y tro cyntaf gyda llif!

Mae cyfuniad annisgwyl o delyn a llif ar CD newydd a gynhyrchwyd i godi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010.

Ar y CD mae deuawd rhwng y delynores Catrin Finch a Tommi Jones, sydd yn ei wythdegau ac yn chwarae'r llif!

Maen nhw'n perfformio fersiwn o'r alaw werin Gymreig, Yr Eneth Gadd ei Gwrthod.

Lleisiau lleol

Hefyd ar y CD, Lleisiau Llansanffraed, mae artistiaid lleol eraill, Dafydd a Gwawr Edwards, Ifor Lloyd a hyd yn oed Prif Weithredwr Cyngor Ceredigion, Bronwen Morgan sy'n adrodd detholiad o waith y diweddar Brifardd John Roderick Rees, oedd hefyd yn frodor o'r ardal.

Lleol yn bwysig

Noddwyd y fenter gan Pugh Computers, Llansanffraed, un o brif gyflenwyr meddalwedd ar gyfer byd addysg, elusennau a myfyrwyr.

Lansiwyd y CD a gynhyrchwyd gan label lleol, Troedyrhiw, yn Llanerchaeron Rhagfyr 15, 2009.

"Fel un o brif gyflenwyr meddalwedd ar gyfer sefydliadau addysgol, elusennau a myfyrwyr, rydym yn teimlo'n gryf y dylem gefnogi mentrau sy'n gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad," meddai Jeffrey Pugh, Rheolwr Gyfarwyddwr Pugh Computers.

"Mae'r elfen leol yn bwysig i ni fel cwmni ac mae'n braf gweld cymuned, fel ein un ni yn dod at ei gilydd i gynhyrchu CD o'r safon uchaf. Mae'r CD yn gryn gamp i gymuned fechan - yn cynnwys 22 o artistiaid yn ogystal â phlant lleol. Mae pawb wedi gweithio'n galed iawn ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt," meddai Jeffrey Pugh.

Syniad cerddor lleol, Gerallt Lewis, oedd y CD ac heb os fe drawyd ar syniad go arbennig cael un o brif delynorion Cymru i berfformio deuawd gyda pherfformiwr llif.

Yn y fyddin

Mae Tommi, y llifiwr fel petai, yn byw ym Mhenuwch ac wedi ymddiddori yn yr 'offeryn' er 1947 pan oedd yn y fyddin yn yr India.

"Roedd 'na nifer o artistiaid yn dod allan i'r India i'n diddanu ni," meddai Tommi 88 oed.

"Roedd Gracie Fields yn un ac fe ddaeth unigolion o Gerddorfa Symffoni Lerpwl hefyd. Fe chwaraeodd un o'r rhain y lli ac fe benderfynais yn y fan a'r lle y byddwn i'n rhoi tro ar chwarae'r teclyn ar ôl dychwelyd i Gymru.

"Fe brynais fy lli gyntaf mewn siop gerddoriaeth yn Aberystwyth ond doedd hi ddim gwerth, yn neidio octave heb rybudd. Fe gefais gyngor wedyn i brynu un yn siop y Co-Op ac rwy'n dal i chwarae'r un un ag a brynais yn y Co-Op yn 1950!"

Cyfaddefodd ei fod yn eithaf nerfus ymuno mewn deuawd â Catrin.

Yn nerfus

"Ro'n i'n reit nerfus gan fod Catrin yn gerddor sydd wedi cyflawni gymaint. Ond doedd dim rhaid i mi boeni gan fod sŵn eithaf telynegol i'r lli ac mae'r ddau offernyn yn gweddu'n dda i'w gilydd. Wedi i ni recordio'r ddeuawd ro'n i'n teimlo'n falch iawn mod i wedi cael y cyfle i weithio efo Catrin ac fe hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gerallt Lewis a'i frawd Euros. Hebddynt, fydde hyn heb ddigwydd," meddai.

Y tro cyntaf

Ac meddai Catrin a fagwyd yn Llan-non:

"Roedd yn brosiect diddorol a dyma'r tro cyntaf imi gael y cyfle i chwarae deuawd efo'r lli. Fe recordiodd Tommi ddarn y llif i ddechrau ac fe ddaeth y trac draw atom ni i stiwdio Acapela er mwyn i mi gael recordio darn y delyn," meddai.

  • Pris Lleisiau Llansanffraed yw £13.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.