Â鶹ԼÅÄ

Sioe Edward H

Caneuon Edward H Dafis 30 mlynedd yn ôl sydd wrth wraidd sioe ieuenctid Eisteddfod yr Urdd 2010.

Mae'r sioe wedi ei sylfaenu ar ganeuon Plant y Fflam Edward H Dafis un o grwpiau mwyaf arloesol y Gymraeg.

Bydd 60 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y sioe o'r un enw a fydd yn cael ei chyfarwyddo gan Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch a ddywedodd;

"Yn ei hanfod, stori dda yw Plant y Fflam sy'n cael ei chyfleu drwy gyfrwng deg cân wych."

Dywedodd iddo ef "ailddarganfod" yr albwm beth amser yn ôl pan gyhoeddodd Sain gasgliad o weithiau Edward H ar gryno ddisg.

"Dyna ddechrau meddwl bryd hynny bod deunydd sioe yno," meddai.

Awdur y sgript yw Mari Rhian Owen hefyd o Gwmni Arad Goch.

"Y stori yw criw o bobl ifanc yn troi eu cefnau ar gymdeithas gyfoes wag er mwyn ceisio creu ffordd well o fyw," meddai Jeremy Turner.

Cyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Rhys Taylor o Aberystwyth, yw'r cyfarwyddwr cerdd a'r coreograffydd, Lynne Hughes.

Dywedodd un o gyn-aelod Edward H Dafis, Hefin Elis, ei fod wrth ei fodd gyda'r penderfyniad.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael gweld sut y bydd y bobl ifanc yn ymdrin â'r caneuon. Mae'n wych gweld y byddan nhw'n cael eu canu o'r newydd 30 o flynyddoedd wedi iddyn nhw ymddangos am y tro cynta. "Dwi'n edrych ymlaen at eu gweld mewn gwisg newydd."

Edward H

Fe ffurfwyd Edward H Dafis, fel nifer o fandiau eraill o'r un cyfnod gan mai dyna oedd yr unig ffordd i ieuenctid gael llais," meddai Jeremy.

"Dwi ddim yn credu fod hyn mor wir bellach gan bod nifer o sefydliadau a fforymau sy'n gallugoi ieuenctid i ffurfio a lleisio barn.

"Ond dyw hynny ddim i ddweud nad yw'r themau sydd i'w gweld yn Plant y Fflam - sef creu cymdeithas well - yr un mor gyfoes heddiw ac yr oeddent dri deg o flynyddoedd yn ôl."

Aelodau Edward H Dafis oedd Dewi 'Pws' Morris, Charli Britton, John Griffiths, Hefin Elis ac yn ddiweddarach, Cleif Harpwood.

Perfformiodd y grŵp gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd 1973.

Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Felin-fach o nos Wener Mai 27 hyd nos Fawrth, Mehefin 1.


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.