Â鶹ԼÅÄ

Pasiant Ysgolion Meithrin

Dewin

26 Mai 2010

240 o blant ar y llwyfan

Bydd 240 o blant rhwng dwy a phedair oed o gylchoedd meithrin Ceredigion yn cymryd rhan mewn pasiant ar lwyfan Prifwyl yr Urdd fore Llun am 10.15.

Bydd y perfformiad yn para am tua chwarter awr.

Sgriptiwyd Ffrind Newydd Pentre Bach gan Iola Jôns, Cyfarwyddwr Marchnata'r .

"Gan inni lansio Dewin - cymeriad newydd y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala fis Awst diwethaf, roedden ni'n awyddus i greu Pasiant a fyddai'n dod â Dewin yn fyw i'r plant eleni," meddai.

"Felly trwy gydweithio â Choblyn, Bili Bom Bom, Jac Do yn ogystal â phlant o 37 o gylchoedd meithrin Ceredigion, bydd Dewin yn cael ei gyflwyno fel ffrind newydd plant bach Cymru gan gael llawer o hwyl a chwerthin ar yr un pryd!" ychwanegodd.

Dywedodd y bydd llawer o'r caneuon a genir yn y Pasiant yn hwiangerddi traddodiadol a ymddangosodd ar CD'r Ŵyl Feithrin eleni a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Siân James, yn ogystal a chân newydd Dewin ei hun.

Dywedodd y bydd sawl parti yn cael gynnal i ddathlu'r pasiant gyda thystysgrifau a phecyn bach o anrhegion yn cynnwys CD newydd sbon Dewin, yn cael ei roi i bob plentyn a gymerodd ran i'w hatgoffa o'r achlysur arbennig.


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.