Â鶹ԼÅÄ

Llywydd dydd Llun

Maes yr Eisteddfod

24 Mai 2010

Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ddydd Llun yw Islwyn Evans, Cyfarwyddwr Ysgol Gerdd Ceredigion.

Yn ystod ei gyfnod yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd, derbyniodd wobr Arweinydd Corau Ieuenctid y Sefydliad Prydeinig ynghyd ag Ysgoloriaeth Winston Churchill i astudio corau plant yn Sweden a Hwngari.

Yn ogystal a bod yn gyfarwyddwr Ysgol Gerdd Ceredigion mae'n gyfarwyddwr Côr Cywair hefyd a enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2007.

Daeth Islwyn Evans i frig y gystadleuaeth unwaith yn rhagor yn 2009 gydag Ysgol Gerdd Ceredigion.

Derbyniodd sawl llwyddiant unigol ar lwyfan yr Eisteddfod yn ei arddegau ac fe dreuliodd sawl wythnos Sulgwyn yn Eisteddfod yr Urdd yn ystod ei gyfnod fel athro Cerdd Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul.

Dywedodd bod derbyn gwahoddiad i fod yn Llywydd y Dydd ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 yn anrhydedd o'r mwyaf ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd gan yr ŵyl i'w chynnig.


Lluniau'r Maes

Cymerwch olwg ar y luniau dydd Llun a Mawrth o faes Llanerchaeron.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.