Bydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn darlledu'n fyw o Eisteddfod yr Urdd, Llanerchaeron, trwy gydol yr wythnos hon.
Ar ben hynny bydd yr orsaf yn darlledu o Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion lle dechreuir darlledu ddydd Sadwrn, Mehefin 12.
Mae hon yn un o sioeau amaethyddol undydd mwyaf Cymru.
Cyfarfod y bobol
Bydd Geraint Lloyd yn darlledu'n fyw o'r sioe.
"Un o fy hoff bethau am weithio ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yw'r cyfle i siarad â'r gynulleidfa," meddai Geraint, a fynychodd Ysgol Gynradd Lledrod ac Ysgol Tregaron.
"Trwy radio y mae'n bosibl cysylltu ac agosáu at y cyhoedd. Dyma gyfle gwych i wneud hyn, wyneb yn wyneb".
Ond cyn hynny bydd wythnos brysur o ddarlledu o Eisteddfod yr Urdd lle bydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis o Dregaron yn ein tywys.
Yn ogystal cynigiodd Radio Cymru gyfle unigryw i wrandawyr ddod i adnabod ardal Dyffryn Aeron a'i thrigolion ar raglen arbennig, Croeso i Ddyffryn Aeron a ddarlledwyd dydd Mercher, Mai 26 ac sy'n awr ar gael ar iPlayer .
Ar y rhaglen, cyflwynwyd yr ardal gan Janice Thomas sy'n gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron.
Byw yng nghefn gwlad
Meddai Irfon Jenkins, un o drigolion yr ardal:
"Falle bod llawer yn meddwl bod byw yng nghefn gwlad yn meddwl bo chi ddim yn cael cyfle i gymdeithasu a gweld pobl ond dwi ddim yn aml iawn adre ar ôl bennu gwaith gyda mudiad FFI.
"Hefyd rwy'n ffodus o fod yn aelod o weithgor Dyffryn Aeron sy' wedi cael ei sefydlu ar ôl cau ffatrïoedd caws yn FFI, gyda'r nod o helpu creu swyddi cynaliadwy yn yr ardal.
"Dwi 'di teimlo bod hi'n fraint i fod yn rhan o hwnna, gweld rhai swyddi nawr wedi dod nôl i'r ardal ar ôl colli nifer mawr yn yr ardal yn y cwpwl o flynydde cynt 'te."
- Darlledwyd Croeso i Ddyffryn Aeron ddydd Mercher, Mai 26 am 1.15pm a gyntaf a gellir gwrando eto o fynd i wefan Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru lle gellir gwrando'n fyw hefyd ar holl ddarlediadau'r Eisteddfod.
- Gwrandewch ar Radio Cymru ar 92-105FM, Freeview 720, Sky 0154, Freesat 715, Cebl digidol 936