Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llydaw Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr
Ofni beth fydd y dyfodol i ysgolion Llydaweg eu hiaith

Dydd Gwener, Ionawr 5, 2001

Mae'r newydd bod ail undeb athrawon mwyaf Ffrainc yn gwrthwynebu cynnwys ysgolion Llydaweg o fewn y system addysg yn tanlinellu sefyllfa fregus y Llydawg ac addysg drwy gyfrwng yr iaith yn y wlad honno.

Mae'r undeb, UNSA Education, wedi sgrifennu at Brif Weinidog Ffrainc, Lionel Jospin, yn dweud y buasai dod ag ysgolion Diwan - yr ysgolion Llydaweg eu hiaith sy'n cael eu cynnal yn breifat - tu mewn i gyfundrefn gyhoeddus y wladwriaeth yn groes i egwyddorion sylfaenol Gweriniaeth Ffrainc.

'Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth'

Mae hyn yn amlwg yn feirniadaeth o Weinidog Addysg Ffrainc, Jack Lang, sydd â chydymdeimlad â'r syniad o ddod â'r ysgolion Llydaweg eu cyfrwng o fewn y gyfundrefn addysg gyhoeddus y wladwriaeth.

"Yn ôl y cyfansoddiad, Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth," medd llythyr yr Undeb.

"Mae'r ffaith fod undeb athrawon yn dangos ei elyniaeth tuag at yr iaith yn eironig ac yn drist," meddai rhiant sy'n anfon ei blant i ysgol Diwan Gynradd Roazon (Rennes) wrth Cymru'r Byd.

"Ond mae'n fater llawer mwy cymhleth. O dan drefn gor-ganolig Addysg Ffrainc mae'n anodd iawn gwybod beth fyddai tynged Ysgolion Diwan pe baen nhw'n cael eu cymryd dan adain Gweinyddiaeth Addysg Ffrainc.

Llai o blant i bob athro

"Ar hyn o bryd mae nifer y plant i bob athro neu athrawes yn is yn ysgolion Diwan na'r hyn yw e yn ysgolion y wladwriaeth.

"Mae lle i ofni y buasai'r wladwriaeth yn mynnu bod cyfartaledd Diwan yn debyg i rai Ffrainc. Ac y buasai ysgolion Diwan yn cael eu cau yn y broses o wastadau'r rhifau.

"Ar y llaw arall, mae ysgolion Diwan yn cael eu cynnal yn gwbl wirfoddol ac y mae'r baich ariannol yn fawr. 'Dyw datblygu a chynhyddu nifer ysgolion Diwan o dan y drefn bresennol ddim yn ymarferol.

"Mae gan Jack Lang gydymdeimlad â sefyllfa Diwan ond un ydy e. Mae'n anodd bod a ffydd yn addewidion Ffrainc."



Ffrainc yn llusgo'i thraed

Y mae Gwladwriaeth Ffrainc, yn arbennig y Weinyddiaeth Addysg, yn hollol ganolig ei natur.

O dan y drefn Ewropeaidd bydd yn rhaid ir Wladwriaeth ddatganoli. Ond yn ôl y rhiant o Diwan llusgou traed mae arweinwyr y prif bleidiau Ffrengig i gyd.

"Pe bai gennym ni drefn ffederal fel sydd gan Yr Almaen fe fuasen nin llawer hapusach yn gweld ysgolion Diwan yn cael eu cymryd dan adain y Wladwriaeth," meddai.

"Greddf ein gwleidyddion yw tuag at fwy o ganoli, nid datganoli. Maen ddewis anobeithiol.

Fedrwn ni ddim datblygu, nac agor ysgolion newydd fel mae pethau. Ac y maer peryglon o roi ein ffydd mewn gwleidyddion Ffrengig yn Paris yn fwy."





ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy