Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lladd Owain Lawgoch Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Casglu arian i godi cofeb i Owain Lawgoch

Dydd Llun, Medi 10 2001

Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i godi cof-golofn i goffau un o gymeriadau rhamantus hanes Cymru mewn tref yn Ffrainc ymhen dwy flynedd.

Yr olaf o dywysogion Gwynedd

Hyd y gwyddys, Owain Lawgoch oedd yr olaf yn llinach tywysogion Gwynedd. Yr oedd ei dad, Thomas ap Rhodri, yn nai i Lywelyn Ein Llyw Olaf ac yn ddisgynnydd o Lywelyn Fawr.

Tuag adeg geni Owain, o gwmpas 1335 yn ôl pob tebyg, ym maenor ei dad yn Tatsfield yn Surrey, bu farw ei ddwy gyfnither Gwladys a Gwenllian. Cafodd ei adael yn unig etifedd yn llinach Gwynedd.

I'w ddiogelu rhag y Saeson-Normanaidd fe'i hanfonwyd i Ffrainc lle cafodd ei fagu a'i addysgu gan Is-iarll Alençon, brawd Phillip VI, Brenin Ffrainc. Mae'n bosib mai Ffrances oedd ei fam, Cecilia.

Ceir llawer o gyfeiriadau ato yng Nghroniclau Jean Froissart a'r cyntaf yng nghyswllt brwydr Poitiers yn 1356 lle y brwydrodd ar ochr Ffrainc.

Wedi'r frwydr aflwyddiannus hon casglodd ynghyd fyddin o filwyr tâl ac aethant i ffwrdd i Lombardi.

Bu farw ei dad yn 1363 ac ymhen amser daeth y newydd i Owain ac yn 1365 aeth i Loegr i hawlio'i etifeddiaeth. Bu'n llwyddiannus.

Chwedlau amdano yng Nghymru

Mae ei hanes yn y cyfnod wedyn yn annelwig. Mae'n bosib iddo ddod i Gymru yr adeg honno am yr unig dro yn ei fywyd.

Tyfodd nifer o chwedlau gwerin amdano - yn arbennig yn ardal Llandybie - fel yr un am ogof lle mae marchog arfog yn cysgu, ei filwyr o'i gwmpas, yn barod i'w deffro i achub Cymru yn awr ei hangen.

Chwedl arall yw honno am Lyn Llech Owain lle dywedir i Owain Lawgoch anghofio rhoi yn ôl garreg a symudodd oddi ar ffynnon i ddi-sychedu ei geffyl gan beri i ddwr lifo dros y wlad a chreu y llyn!

Hwyrach iddo, wedi hynny, fynd i ymladd ym myddin Ffrainc yng Ngogledd Sbaen dan arweinyddiaeth y Llydawr Bertrand du Guesclin.

Ymladd yn rhengoedd Ffrainc

Yn sicr pan dorrodd rhyfel allan rhwng Lloegr a Ffrainc yn 1369 yr oedd Owain ym ymladd yn rhengoedd Ffrainc a phan glywodd y Saeson am hyn meddiannwyd ei eiddo a'i gyhoeddi ef yn fradwr.

Gwnaeth sawl ymdrech i hwylio i Loegr gyda byddin o Ffrainc. Methodd y gyntaf pan fu'n rhaid troi'n ôl oherwydd storm ar y môr.

Bu'n ymladd ochr yn ochr â du Guesclin - bob amser dan faner Gwynedd - mewn llu o frwydrau wedyn a threfnwyd sawl cyrch ar Loegr ond bod tro bu rhyw anhwylustod o du ei gefnogwyr, Ffrainc neu Sbaen.

Petae wedi glanio credir y buasai'n llwyddiannus.

Nid yn unig oherwydd y byddai'r Cymry, Yr Albanwyr a Ffrainc wedi ei gefnogi ond hefyd, yr oedd gwerin Lloegr mewn cymaint o dlodi y gallasai'r Saeson hefyd fod wedi codi mewn gwrthryfel o'i blaid a rhoi diwedd ar olyniaeth Plantagenet.



Bryan Davies - manylion ar waelod yr erthygl Cael ei ladd gan 'gyfaill'!
Bu farw Owain Lawgoch yn ystod gwarchae castell Mortagne yn 1378 gan weithred ysgeler gwr o'r enw John Lamb a gafodd fynediad i'w gwmni trwy ddweud fod ganddo newyddion o Gymru a gofyn am waith. Rhoddodd Owain waith iddo fel gwas ond un bore trywanodd Lamb ef gyda phicell a dianc wedyn i'r castell oedd dan warchae.

Un o ddynion Dug Lancaster oedd Lamb ac wedi ei dalu i lofruddio Owain. Yr oedd yn amlwg fod Lloegr yn ymwybodol o'r perygl pe byddai'r Cymro yn croesi gyda byddin i ymosod ar Loegr.

Claddwyn Owain yng nghastell Saint-Leger gerllaw Mortagne.

Casglu arian i godi cofeb

Mae maer Mortagne wedi neilltuo darn o dir i Gymdeithas Owain Lawgoch godi cofeb arno ac mae'r Gymdeithas wrthi'n awr yn casglu arian ac yn trefnu i blannu cannoedd o Gennin Pedr yn y lle.

Yr oedd yn un o arwyr y cyfnod yn Ffrainc ac y mae lle i gredu iddo briodi merch o'r enw Elenore a bod ganddo eiddo yn La Gravelle yn nhalaith Maine.

Yn ôl ysgrifennydd y Gymdeithas, Bryan Davies o Aberhonddu, mae'n debygol fod llawer mwy o wybodaeth amdano yn gorwedd yn archifau Ffrainc ym Mharis a'i obaith yw y daw y wybodaeth honno i'r fei rhyw ddiwrnod.

-
Yn y llun uchod: Barbara Struder o archifdy'r wladwriaeth yn Berne yn dangos i Bryan Davies gytundeb a dynnwyd rhwng Owain Lawgoch ac Engeurrand de Coucy, Cownt Soissons, yn 1375.

Yn y cytundeb y mae Owain yn cytuno i arwain 400 o ddynion ochr yn ochr a'r Cownt yn erbyn Dug Awstria.

Dywedodd Bryan Davies fod sêl Owain yn dangos yn eglur arfbais tywysogion Gwynedd.


Cymdeithas Owain Lawgoch:
2 Lôn Slwch,
Aberhonddu,
LD3 7RL




ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy