Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Caer Geltaidd heb ei chloddio ger Roquepertus Celtiaid Ffrainc
Gwyn Griffiths yn cael ei swyno gan olion Celtaidd yn neheudir Ffrainc

Rwy'n prysur ddod i'r casgliad nad oes lle'n byd gwell a difyrrach na Profens yn ne Ffrainc i fwrw golwg dros fywyd yr hen Geltiaid.

"Ie, wel, Celtiaid i ni gyd yn y bôn," meddai dyn stondin hen lyfrau ym marchnad fore Sul Isle-sur-la-Sorgue.

Roeddwn i wrthi'n cyfri 60 ewro am anferth o hen fap ysgol - un i'w osod ar wal - yn dangos llwythau Celtaidd Gâl yng nghyfnod Iwl Cesar.

Ac er mai Profens oedd y rhanbarth cyntaf o Gâl i blygu glin i Cesar erys llu o olion Celtaidd ar hyd a lled y darn hwn o Ffrainc.

Ffordd Cesar drwy CevennesProvincia Romania - y Dalaith Rufeinig - oedd yr enw a roddodd y Rhufeiniaid ar ddarn o wlad a oedd gyda'r fwyaf hudolus yn eu golwg.

Gwlad sy'n dal i gynnig i deithwyr heddiw yr hyn oedd gymaint wrth fodd y Rhufeiniaid - hinsawdd hyfryd, gwinllannoedd, llawnder o ffrwythau, a'r coed olewydd.

Fil o flynyddoedd wedi Cesar, pan alltudiodd yr Eglwys Babyddol ei hun oherwydd y sefyllfa wleidyddol fregus o Rufain i Avignon, bu'n anodd dwyn perswâd ar y cardinaliaid a'r esgobion i ddychwelyd i ddinas Pedr gan fod bywyd mor braf a'r gwinoedd mor felys.
Am gyfnod methwyd â chytuno a chafwyd dau Bab, un yn Rhufain a'r llall yn Avignon.

Yn wir, pan ddychwelodd Frederic Mistral, arwr adfywiad llên a diwylliant modern Profens, o ymweliad â'r Eidal yn 1891, honnodd fod yr olion Rhufeinig yn ei fro enedigol yn rhagori ar bopeth a welodd ar ei daith!

Dywedodd, hefyd, yn un o'i gerddi mai Galo-Rufeiniaid a boneddigion oedd gwŷr Profens, yn parchu henebion a threftadaeth.

Cael parch
Ac y mae olion y Galiaid - neu Geltiaid - yn cael parhau i gael parch a chydnabyddiaeth ym Mhrofens er eu bod weithiau yng nghysgod yr olion Rhufeinig diweddarach, mwy ysblennydd - fel ag yn achos olion Glanum ar gyrion tref Saint-Rémy-de-Provence.

Safle Celtaidd-Rhufeinig Glanum Dro arall maent wedi eu claddu dan yr olion Rhufeinig - fel yn Vaison-la-Romaine - ond yr ydym yn ymwybodol o hynny diolch i haneswyr nad ydynt yn diystyru'r hen hanes fel rhai Lloegr sy'n anwybyddu popeth cyn Rufeinig a phorthi'r myth mai'r Rhufeiniaid yw sail ein gwareiddiad.

Yng ngeiriau un hanesydd Celtaidd o Ffrancwr, cawsom ein llyffetheirio gan ystrydebau dyddiau ysgol fel;
"Yr oedd y Celtiaid yn byw mewn cutiau" ac mai y Rhufeiniaid wareiddiodd Orllewin Ewrop.

Ond mae bwrw golwg o gwmpas safleoedd Entremont ger Aix, Glanum a Roquepertus, ger Veloux (neu Velous), ynghyd â'r amgueddfeydd sy'n gysylltiedig â hwy yn agoriad llygad.

Gwelir fod gan yr Ymerodraeth Rufeinig ddyled enfawr i'r Celtiaid yn yr un modd ag y maent yn ddyledus i'r Groegiaid. Nid yn unig am greu'r ffyrdd y gwnaeth y Rhufeiniaid gymaint defnydd ohonynt a'u hawlio iddynt eu hunain wedyn.

Yr hyn a wnaeth Rhufain oedd addasu gwareiddiadau eraill i'w anghenion eu hunain.

Ystod rhyfeddol o hanes
Cychwynnais fy nheithiau mewn man oedd yn agos i'r lle y lletywn - Caer Buoux - neu Buous mewn Profonsaleg - ym mryniau'r Luberon. Tybed a oes safle yn unman sy'n cyfannu'r fath ystod ryfeddol o hanes?

Buoux Yn yr ogofeydd islaw'r gaer darganfuwyd olion dyn cyntefig, 100,000 o flynyddoedd Cyn Crist. Roedd y llu ogofeydd a'r gofod dan y ceulannau craig enfawr yn lloches ddelfrydol yn nyddiau cynnar gwareiddiad - mater bach oedd adeiladu'r un mur angenrheidiol i greu "stafell" ddiddos yn gysgod i deulu mawr.

Gwelais un neu ddwy a ddefnyddir hyd heddiw'n gorlannau defaid neu eifr gyda digon o le i dros gant o anifeiliaid. Mae olion y gaer ei hun yn ddogfen o hanes - drwy'r Oesoedd Pres, Haearn, dyfodiaid y Celtiaid, y Rhufeiniaid a'r Saraseniaid.

Saif ar driongl o wastatir pensyfrdan o uchel uwchben y cymoedd culion o boptu. Bu'r lle'n lloches yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg i'r Vaudois neu'r Waldensiaid, hereticiaid - yng ngolwg Eglwys Rufain - oedd yn byw'n llythrennol yn ôl gorchymyn Crist; "Dos a gwerth yr holl sydd gennyt a dyro i'r tlodion."

Safle o bwys
Mae safle Glanum ger y Camargue yn enwog am fawredd ei olion Rhufeinig. Ond o'r chweched hyd yr ail ganrif Cyn Crist llwyth Celtaidd y Salluvii oedd yma gyda'u seintwar uwch y safle, y ffynnon nad yw byth yn hesb islaw a lle bu'r Celtiaid yn addoli wrth allor y duw, Glanis.

Mur Celtaidd yn GlanumMae'r allor, ynghyd â nifer o greiriau a ddarganfuwyd ar y safle, yn amgueddfa'r Hôtel de Sade yn Saint-Remy.

O gerdded o gwmpas y safle a syllu ar yr hen furiau hawdd credu y bu yma safle Geltaidd o bwys cyn dyfodiad y Rhufeiniaid.

Gwelir olion muriau mwy diweddar ar ben hen furiau, sy'n awgrymu bod safle'r Celtiaid yn sylweddol a bod y Rhufeiniaid wedi adeiladu arni.

Mae'n wahanol i lawer o hen geyrydd Celtaidd, sef ei bod mewn cilfach ym mhen uchaf cwm cul yn hytrach nag ar wastatir uchel - er bod y seintwar ei hun mewn darn o graig uchel.

Trefi a thai llydan
Saif Entremont ar safle uwch tref Aix-en-Provence. Mae'n safle mawr sy'n brawf bod gan yr hen Geltiaid eu trefi, eu tai llydan, eu muriau cerrig, offer amaethyddol fel y melinau i wasgu sudd yr olewydd a'r rhesi o ffyrnau at wahanol bwrpasau.

Celfyddyd
I weld celfyddyd yr hen Geltiaid rhaid taro i lawr i'r Musée Granet yn Aix lle diogelir y llu creiriau a ddarganfuwyd wrth gloddio yn Entremont - pethau sy'n amrywio o bileri lle arferid gosod pengoglau gelynion a laddwyd, i gerfluniau o bennau yr arwyr i luniau ceffylau a cherbydau rhyfel wedi eu naddu mewn carreg.

Hefyd, offer amaethyddol, pinnau cau a thlysau cain.

Yn wahanol
Ger Veloux - neu Velous - tref fechan sy'n edrych allan dros lyn Berre ger y Camargue, ceir safle Roquepertuse.

Yn wahanol i'r ddau le arall y soniais amdanynt nid oedd neb yno yn gwarchod a dim tâl am ymweld â'r lle.

Un amser bu adeiladau ar y darn bach o wastatir ond yr unig olion a welir erbyn hyn yw muriau'r tai islaw.

Yng Nghymru buasai pwyllgor Iechyd a Diogelwch wedi cau'r lle ers blynyddoedd - a'r un modd Buoux o ran hynny.

Gwaith maen, Buoux Mae rhai o greiriau Roquepertus mewn amgueddfa fach ar frig pentre Veloux ond i weld y cyfan a gloddiwyd yno rhaid mynd i Marseilles a'r Vieille Charité, adeilad a godwyd i gartrefu'r tlodion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyrchfan twristiaid oherwydd ei arbenigedd.

Ond y mae'n gartref i amryw gasgliadau archeolegol, hefyd a'r mwyaf trawiadol o'r rhain yw creiriau Roquepertus, sy'n cynnwys pob math o bethau, gan gynnwys cerflun o'r duw Celtaidd Belenos - duw'r haul neu dduw goleuni.

Mewn enwau lleoedd
Y mae olion Celtaidd eraill mewn amryw byd o enwau lleoedd fel Avignon - afon Ion (duw'r afon); Arles - ar laith ger tir corsiog y Camargue; a Ventoux - gwyn do lle mae'r mynydd yn wyn dan eira yn y gaeaf a'r garreg galch yn disgleirio yn yr haf.

Peth braf arall yw'r rhyddid a geir i grwydro'r mannau hyn - mae'r awdurdodau fel pe'n derbyn fod pobl yn gyfrifol a chall.

Hefyd, ar hyn o bryd, mae Ffrainc yn hybu diddordeb mewn treftadaeth, a hwnnw'n dreftadaeth bro.






ewrop

Ffrainc
Dod o Lydaw i weld teledu Cymraeg

Ewrop

Oes gafr eto?

Adeiladau crwn Profens

Pererinion o Lydaw yng Nghymru

Dod i adnabod Paris

Cymry Paris

Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr

LLyfr Cymro am Lydaw

Cofio arwr o Gymro yn Ffrainc

Oes gafr eto?

Terfysg ym Mharis - Tachwedd 2005

Gobaith i'r ieithoedd bach?

Ergyd i'r ieithoedd bach

Celtiaid Ffrainc

Nofelydd gwych y chwyldro Ffrengig

Pobi yn Llydaw

Tai, bwyd a gwin yn Ffrainc




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy