Â鶹ԼÅÄ

Joshua

Joshua, Caerdydd

Pwnc arbenigol: Bywyd a gyrfa Gareth Edwards

Ymddangos yn: Rhaglen 2

Yn ogystal â phêl-droed, mae rygbi yn un o ddiddordebau pennaf Joshua ac mae wedi dewis un o arwyr y bêl hirgron fel ei bwnc arbenigol.

"Dwi wedi clywed llawer am Gareth Edwards ac mae'n arwr personol i mi am 'mod i'n dilyn rygbi mor frwd," meddai.

"'Dwi erioed wedi cwrdd ag e ond dwi wedi ei weld yn pasio yng Nghlwb Rygbi Caerdydd. Dwi wedi darllen llawer o lyfrau amdano fe a chael gwybodaeth gan y teulu, ac mae'r we, bob amser, yn dda i gael gwybodaeth."

Mae Josh, wrth gwrs, yn cefnogi clwb rygbi Caerdydd, y Gleision, cyn glwb Gareth Edwards.

"Dwi 'di cael fy nhynnu lan yn chwarae rygbi. Mae Tad-cu wedi bod yn casglu rhaglenni'r clwb ers blynyddoedd."

Mae hefyd yn hoffi'r celfyddydau ac yn mwynhau canu'r piano a'r gitâr, canu, actio, darllen ac ysgrifennu creadigol.

"Mae ymddangos ar Mastermind yn gyfle arbennig imi gwrdd â phobl newydd sy'n rhannu'r un diddordebau â fi.

"Hefyd mae'n gyfle da i mi ddangos fy nhalentau ac i ddarganfod talentau newydd.

"Mae'n ffordd dda i ehangu fy ngwybodaeth gyffredinol ac i ddarganfod ffeithiau diddorol am fy mhwnc arbenigol."


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.