Â鶹ԼÅÄ

Elliot

Elliot, Y Fenni - yn y ffeinal

Enillydd Rhaglen 3

Pwnc arbenigol rhaglen 3:

Ffilmiau Bill a Ted

Pwnc arbenigol y ffeinal:

Llyfrau'r gyfres Cherub gan Robert Muchamore

Er bod ffilmiau Bill a Ted yn y sinemâu ymhell cyn i Elliot gael ei eni, mae'n gwybod amdanyn nhw, diolch i'w dad.

"Dywedodd fy mrawd wrtha i amdanyn nhw oherwydd roedd fy nhad wedi dweud wrtho fe amdanyn nhw," meddai.

"Mae'r ffilmiau am ddau fachgen ac yn y dyfodol mae eu cerddoriaeth nhw'n gwneud heddwch. Mae'n rhaid i ddyn o'r enw Rufus fynd yn ôl mewn amser i roi'r report 'ma i Ted. Maen nhw'n ffilmiau doniol," meddai.

Mae Elliot yn mwynhau tynnu lluniau ac ysgrifennu storïau yn ogystal â chwarae rygbi a phêl-droed, darllen a cherddoriaeth roc ac RnB.

Ei hoff bynciau yn yr ysgol ydy Addysg Gorfforol, Mathemateg, Saesneg a Hanes.

Mae wedi bod ar y teledu o'r blaen pan ymddangosodd ar y rhaglen gelf Smart drwy gyfrwng gwegamera.

"Bydd ymddangos ar Mastermind yn sialens, yn hwyl ac yn anodd. Rydw i'n gwylio'r rhaglen o hyd ac wedi bod eisiau cymryd rhan ers oesoedd."


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.