Â鶹ԼÅÄ

Arwel

Arwel, Abercynon

Pwnc arbenigol: Nofelau Phillip Pullman

Ymddangos yn: Rhaglen 5

"Mae llyfrau Phillip Pullman yn ffantastig," meddai Arwel am ei bwnc arbenigol.

"Roedd un o'r athrawon yn yr ysgol wedi dweud wrtha i i'w darllen nhw. O'n i 'di rîli joio nhw ac mi wnes i eu darllen nhw eto, a nawr, gorfod eu hastudio nhw ac wedi joio nhw lot. Maen nhw'n rîli da."

"Mae Pullman wedi creu ei fyd ei hun."

Ar wahân i ddarllen, mae cerddoriaeth yn rhan fawr o fywyd Arwel - mae'n canu opera a cherdd dant ac yn chwarae'r delyn a'r piano a bydd yn sefyll arholiadau canu a gradd tri ar y piano cyn hir.

Mae hefyd yn hoffi dawnsio gwerin a chlocsio, darllen, nofio a choginio a, phan mae ganddo amser ar ôl, mae'n chwarae LEGO.

Mae'n mwynhau Saesneg, Cymraeg ac Eidaleg yn yr ysgol yn ogystal â Hanes a Gwyddoniaeth.

"Dwi'n meddwl y bydd ymddangos ar Mastermind yn brofiad neis oherwydd dyw pawb ddim yn cael cyfle fel hyn yn eu bywydau.

"Hefyd rydw i'n edrych ymlaen i eistedd yn y gadair ddu enwog a dwi erioed wedi ymddangos ar raglen gwis o'r blaen."


Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.