Â鶹ԼÅÄ

Hanes Pontydd Môn

top
Pont Menai

Mae cannoedd yn gyrru dros Bont Menai a Phont Britannia dros y Fenai bob dydd - ond beth yw eu stori? Bob Daimond, cyn gyfarwyddwr adran priffyrdd Cyngor Gwynedd ac aelod o banel Sefydliad Peirianwyr Sifil Gogledd Cymru, sy'n esbonio eu pwysigrwydd i hanes peirianneg.

"Yn amlwg, mae pontydd y Fenai yn bwysig ofnadwy o fewn hanes peirianneg sifil, yn arbennig i'r ardal yma. Os ydych chi'n mynd nôl 200 mlynedd, roedd y penderfyniad i ddefnyddio Caergybi fel y porth i Iwerddon yn un pwysig gan mai dyma'r rheswm dros adeiladu'r bont yn y lle gyntaf. Roedd Thomas Telford yn adeiladu'r ffordd o'r Amwythig i Gaergybi ac roedd y bont yn rhan bwysig o'r gwelliant yma i'r ffordd o Lundain i'r Iwerddon.

Porthdinllaen oedd y prif le arall i gael ei ystyried fel y porthladd i Iwerddon, ond yn y pendraw, penderfynwyd defnyddio Caergybi.

Pont Menai oedd y bont grog (suspension) fwyaf o'i bath ar y pryd, a dwi'n meddwl ei bod wedi creu pennod newydd mewn adeiladu pontydd ar y pryd. Mae 'na bontydd crog rŵan sy'n defnyddio gwifrau dur ac sy'n llawer hirach na Phont Menai, ond Pont Menai oedd y gyntaf.

Pont Britannia

Pont BritanniaYna yng nghanol y 19fed ganrif daeth y rheilffordd, a defnyddiwyd llwybr o Gaer i Gaergybi fel llwybr y rheilffordd i Iwerddon. Roedd rhaid i Stevenson adeiladu pont newydd ar gyfer hynny felly, a thrwy hynny datblygodd ffordd newydd o adeiladu pontydd trwy ddefnyddio tiwbiau. Mae pont Conwy ger y castell yn un tiwb hefyd, ond doedd y bont honno ddim cymaint o ran maint â Phont Britannia. Roedd angen wyth tiwb i adeiladu'r bont dros y Fenai.

Ond, yn 1970 collwyd y bont mewn tân ac ers hynny roedd rhaid addasu'r bont i sut mae hi rŵan. Yr adeg honno, roedd yn bosib adeiladu dec arall ar gyfer ceir a lorïau, uwchben y trac rheilffordd.

Roedd yn dipyn o dasg ailadeiladu'r bont gan fod y tiwbiau gwreiddiol mewn cyflwr mor beryglus. Roedd rhaid adeiladu bwa dur newydd cyn iddyn nhw allu tynnu'r hen diwbiau. Mae na ran o un o'r hen diwbiau wedi ei gadw yng ngofal Cyngor Gwynedd wrth ymyl y bont bresennol, ar ochr Caernarfon o'r Fenai.

Dwi'n meddwl fod yn rhaid i ni ddweud y stori a chydnabod pwysigrwydd y ddwy bont fel rhan o hanes datblygu peirianneg sifil dros y canrifoedd, a hefyd beth sydd wedi digwydd iddyn nhw ers iddyn nhw gael eu hadeiladu.

Adnewyddu Pont Menai

Pont Menai heddiw Cafodd Pont Menai ei hadnewyddu a'i chryfhau yn 1940, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Cafodd y cadwyni gwreiddiol eu tynnu lawr gan mai rhai haearn a dur oeddent. Rhai dur yn unig yw'r rhai newydd, sy'n llawer cryfach, felly dau set o gadwyni yn unig sydd eu hangen rŵan yn hytrach na phedwar.

Rŵan wrth gwrs mae'r bont wedi ei hailbeintio i gyd yn 2005 - y tro cyntaf ers 1940. Mae'n ddiddorol iawn fod ei stori yn parhau.

Mae'n siwr y bydd y pontydd yn cael eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Efallai bydd yna broblem gyda chymaint o draffig yn mynd dros Bont Britannia yn y dyfodol; gawn ni weld os ydy pobl yn gwneud unrhyw beth i ateb y broblem, ond dwi'n siŵr y bydd y bont yn dal i fodoli mewn canrifoedd i ddod mewn rhyw ffordd neu'i gilydd."


Bob Daimond

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.