Â鶹ԼÅÄ

TÅ· Gregynog

top
TÅ· Gregynog (llun gan/photo by Frank Steiner)

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, prynwyd Gregynog gan y chwiorydd Gwendolyn a Margaret Davies, a fwriadai ddatblygu canolfan gynadledda a chrefftau yng nghanol cefn gwlad Cymru.

Hanes y TÅ·

Mae TÅ· Gregynog yn cael ei grybwyll gyntaf yn y 12fed ganrif, ac o'r 15fed ganrif ymlaen hwn oedd plasty'r teulu Blayney, gan symud i'r teulu Hanbury Tracy yn 1795. Ailadeiladwyd y tÅ· tua diwedd y 1830'au gan Charles Hanbury Tracy, pensaer amatur Hampton Court, ac yn ddiweddarach yr Arglwydd Sudeley. Wedi hynny bu'r eiddo dan ofal sawl un hyd nes i'r stad gael ei rannu a'i werthu yn 1914. Prynodd y teulu Davies y tÅ· a'r tir a oedd yn weddill hyd nes i'r chwiorydd Davies brynu'r stad drwy eu hawl eu hunain yn 1920, a'i wneud yn gartref parhaol iddynt eu hunain yn 1924.

Mae'n ymddangos mai adeilad Jacobeaidd pren tal yw Gregynog, ond o edrych arno'n fanylach fe welwch chi siâp unionlin yr adeilad a'r casin concrit. Mae'r rendrad cerfwedd 'du a gwyn' yn ddynwarediad o dai ffrâm goed lleol y Gororau. Nid yw'n glir pwy fu'n gyfrifol am gynllunio'r adeilad presennol, ond y gred yw y gall Henry Hanbury Tracey - ŵyr Charles - fod wedi dylanwadu ar y defnydd a wnaed o goncrit fel deunydd adeiladu, gan ei fod yn frwd iawn ynglyn â'r deunydd a oedd yn beth 'newydd' ar y pryd.

Cadwyd rhai o elfennau'r tŷ gwreiddiol a'u hailosod yn yr eiddo newydd. Mae'r ystafell Blayney yn cynnwys paneli parlwr bwyta sy'n dyddio o'r 17fed ganrif ac yn cynnwys y dyddiad Mehefin 22, 1636, a thybir eu bod wedi eu cynhyrchu'n wreiddiol gan gerfwyr o'r Iseldiroedd. Mae'r paneli'n arddangos arfbais y teulu â'r arwyddair 'Virtutis comes invidia' - 'Cenfigen yw cydymaith rhinwedd', ac eiddo eu hynafiaid tywysogaidd Cymreig.

Y Chwiorydd Davies yn prynu - gobeithion a breuddwydion

Ehangodd y chwiorydd Davies Gregynog i letya'r rhai oedd yn ymweld â chynadleddau trwy ychwanegu ystafelloedd gwely newydd ac addurno'r tŷ â darnau o gartrefi eraill y teulu a dodrefn a wnaed gan lowyr di waith yng nghymuned Bryn-Mawr, ym maes glo y de. Cynhyrchodd gwragedd y glowyr wniadwaith rhyngles Celtaidd wedi ei frodio ar gyfer clustogau yn y tŷ. I ddarparu ar gyfer cyngherddau a pherfformiadau, ehangodd y Chwiorydd yr hen ystafell biliards gan osod organ bîb fechan yno i greu ystafell gerdd lle gallai 230 eistedd yn y gynulleidfa.

Dechreuodd y cynadleddau yn 1921, a'r tÅ· yn croesawu enciliadau cerddorol ar gyfer myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a chyfarfodydd blynyddol Ysgol Gymraeg y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd Gregynog yn fan pwysig fel canolfan gynadledda yng Nghymru rhwng y rhyfeloedd gan nad oedd cyfleusterau priodol yng Nghymru cyn hynny, ac yn y Cyfnod Fictoraidd byddai unrhyw gyfarfod o bwys yn cael ei gynnal yn Llundain. Cynhaliwyd un o nifer o ddigwyddiadau nodedig yno yn 1937 pan wahoddwyd Sir John Reith i drafod dyfodol darlledu yng Nghymru.

Y Teulu Davies

Roedd Gwendolyn a Margaret yn chwiorydd i'r Arglwydd David Davies, a oedd yn flaenllaw ym myd gwleidyddiaeth Cymru, gan wasanaethu fel AS dros Sir Drefaldwyn rhwng 1906 a 1929, ac yn gyfaill agos i Lloyd George. Etifeddodd y teulu Davies eu cyfoeth sylweddol gan eu taid, David Davies Llandinam neu 'Davies the Ocean', y diwydiannwr blaenllaw a wnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu llawer o reilffyrdd, porthladd sylweddol yn Y Barri yn ne Cymru, yn ogystal â chreu Cwmni Glo'r Ocean.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Arglwydd Davies a'i chwiorydd yn gefnogwyr brwd i Gynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig. Aethant ati i godi Teml Heddwch ac Iechyd ym Mharc Cathays, Caerdydd, a ddatblygodd yn ganolfan i ddwy gymdeithas Gymreig, yr 'Edward VII Welsh National Memorial Society' a Chynghrair y Cenhedloedd Cenedlaethol Cymreig. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendolyn a Margaret yn rhedeg cantinau i'r milwyr yn Ffrainc, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Gregynog gn y Groes Goch fel cartref gwella.

Celf, Cerddoriaeth ac Argraffu

Yn ogystal â sefydlu Gregynog fel man i gynnal cynadleddau, sefydlodd y chwiorydd Davies wasg argraffu a gŵyl gerdd flynyddol a gynhelid yn y neuadd. Roeddent yn gasglwyr brwd o baentiadau a darluniau Argraffiadaeth Ffrengig ac Ôl-Argraffiadaeth. Mae gwaith William Blake, Paul Cezanne, Stanley Spencer, Monet a Renoir i'w weld ymhlith y casgliad o 260 o weithiau a drosglwyddwyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1951 a 1963. Adeiladwyd Oriel Davies, a gynlluniwyd yn 1967, yn Y Drenewydd gerllaw â rhodd gan y chwiorydd hefyd.

Gwelwyd tua 42 o gyhoeddiadau sylweddol gan y wasg rhwng 1923-40. Roedd llawer o'r llyfrau wedi cael eu rhwymo'n gain gan George Fisher, y prif rwymwr, a roedden nhw'n cynnwys ysgithradau pren gan Blair Hughes-Stanton. Roedd y wasg yn defnyddio dulliau traddodiadol o argraffu llythrenwasg a chysodi â metel poeth. Yn 1940 caewyd y wasg oherwydd yr Ail Ryfel Byd, i'w ailsefydlu fel Gwasg Gregynog gan Brifysgol Cymru yn 1978.

Sefydlodd y chwiorydd Davies ŵyl Gregynog hefyd (1932-38), lle byddai gwesteion/perfformwyr enwog fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst ac Edward Elgar yn dod. Y chwiorydd Davies fyddai'n llywyddu'r digwyddiad blynyddol, lle y bydden nhw, ar wahân i edrych ar ôl y gwesteion a'r rhaglen, yn perfformio ac yn canu mewn côr unigryw ochr yn ochr â nifer o staff y tŷ a fyddai'n ymarfer yn wythnosol. Ers hynny mae'r ŵyl wedi cael ei hadfer gan Brifysgol Cymru a Chwmni Gŵyl Gregynog.

Heddiw

Bu farw Miss Gwendolyn Davies yn 1951, a phan fu farw Miss Margaret Davies yn 1963, fe drefnodd hi i drosglwyddo'r defnydd o Gregynog i Brifysgol Cymru fel y gallai cyfadrannau'r colegau unigol ddefnyddio'r cyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau ac i astudio. Mae'r teulu sy'n weddill yn cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio a chynnal y rhodd hon. Yn ystod eu hoes ac wedi eu marwolaeth gwireddodd y chwiorydd Davies eu dymuniad i hybu gwerthfawrogi celf a chrefft, ac i gefnogi'r symudiad tuag at heddwch a dealltwriaeth - mae Gregynog yn gofeb fyw i'w hymdrechion.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.