Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Anghofio seremoni newydd

Gorffennaf 2007

'Siom' nad oes son am seremoni'r Cymry tramor yn Rhaglen y Dydd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro am anghofio cynnwys gwybodaeth am seremoni newydd yng nghyfrol Rhaglen y Dydd Eisteddfod yr Wyddgrug.

Nid oes sôn yn y Rhaglen am seremoni croesawu y Cymry o dramor ar ei ffurf newydd fel rhan o seremoni y Fedal Ryddiaith, ddydd Mercher yr Eisteddfod.

Wedi ymddiheuro

Mae trefnydd yr Eisteddfod yn y gogledd, Hywel Wyn Edwards, wedi derbyn y cyfrifoldeb am y diffyg ac wedi ymddiheuro'n gyhoeddus.

A dywed Undeb Cymru a'r Byd, corff gwirfoddol sy'n gysylltiedig â'r seremoni, ei fod ef wedi cael addewid gan yr Eisteddfod y bydd popeth yn cael ei wneud i unioni'r cam a thynnu sylw at y seremoni newydd.

Y llynedd, am y tro cyntaf er 1948, nid oedd seremoni o gwbl yn dilyn penderfyniad gan Gyngor yr Eisteddfod i'w dileu.

Ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei ddadwneud gan Lys yr Eisteddfod mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod Abertawe gyda gorchymyn i Fwrdd Rheoli y Brifwyl chwilio am ffordd newydd o groesawu'r Cymry tramor a chyfeillion Cymry dros y môr.

Gyda'r Archdderwydd

Yn gynharach eleni cytunodd yr Eisteddfod yn dilyn trafodaethau gydag Undeb Cymru a'r Byd i gynnal y croeso ar gychwyn seremoni'r Fedal Ryddiaith ar y dydd Mercher gydag arweinydd y Cyfeillion o Dramor yn cael ei galw i'r llwyfan gan yr Archdderwydd.

Byddai seddau arbennig i rai o dramor ym mlaen y Pafiliwn ac yn llygaid y camerâu.

Dyma'r seremoni yr anghofiwyd sôn amdani yn Rhaglen y Dydd.

Ac er bod cyfeiriad at arweinydd y Cymry tramor, Dr Melya Hughes Crameri o'r Swisdir, ni ddywedir y bydd yn bresennol yng Nghymanfa Ganu yr Eisteddfod.

"Yn amlwg yr ydym yn siomedig iawn nad oes sôn am y seremoni yn Rhaglen y Dydd a ninnau wedi gwneud cymaint o ymdrech i adfer y seremoni hon a gynhaliwyd gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 1948," meddai Deiniol Wyn Price o Birmingham, cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd

"Ond yr ydw i wedi cael sicrwydd gan brif weithredwr yr Eisteddfod y gwneir pob ymdrech i dynnu sylw at y digwyddiad a gwneud iawn am y diffyg yn Rhaglen y Dydd," ychwanegodd.

"Ac wrth gwrs yr ydym ninnau wedi galw yn barod ar ein haelodau i wneud pob ymdrech i fod yn bresennol a chefnogi'r seremoni a'r Eisteddfod," meddai.

"Mae'r Eisteddfod yn golygu llawer i'n cyfeillion o dramor ac yng ngwledydd eraill Prydain," meddai.

'Argoeli'n dda'

Mae'r Eisteddfod hithau wedi cyhoeddi datganiad yn tynnu sylw at y seremoni gan ddweud ei bod yn argoeli bod yn un llwyddiannus gydag ymholiadau amdani o bob rhan o'r byd.

"Am y tro cyntaf fe fydd seremoni Cymru a'r Byd yn digwydd dan adain Gorsedd y Beirdd gyda'r Archdderwydd ei hun yn croesawu'r Cymry alltud i'r Å´yl ac yn croesawu Arweinydd Cymru a'r Byd, Dr Melya Hughes Crameri," meddai'r datganiad.

"Mae'r Eisteddfod wedi derbyn nifer helaeth o ymholiadau am y seremoni newydd gydag ystod o Gymry o bob rhan o'r byd yn dangos diddordeb i gymryd rhan yn y digwyddiad," ychwanegodd.

Ac meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, "Rwy'n sicr y bydd y seremoni ar ei newydd wedd yn denu pobl o bob oed ac yn sicrhau y bydd Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn Eisteddfod i'w chofio i bawb o bedwar ban byd."



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý