Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Cadair tad a mab

Gorffennaf 2007

Cadair anarferol yn cael canmoliaeth

Trafferthion gyda'r to mewn siop yn Yr Wyddgrug oedd man cychwyn cadair anarferol Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a wnaed gan dad a mab, Graham ac Ian Pickstock..

"Rhyw ddeunaw mis yn ôl fe alwodd Graham yn y siop ar brynhawn gwlyb a diflas ym mis Tachwedd," meddai Selwyn Evans un o berchnogion Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug.

"Roedd yna broblemau efo'r to yn Siop y Siswrn a dyma fi'n rhyw sôn wrtho fo; pe byddem ni'n cael y fraint o gyflwyno Cadair 2007 fuasai o yn hoffi bod yn rhan o hynny a gwneud cadair. Ac wedi edrych arnaf i wneud yn siŵr nad oeddwn yn tynnu'i goes dyma fo'n dweud, 'It would be an honour'.

"A dyna oedd cychwyn y peth."

'Rhodd y dyn cyffredin'

Yr oedd Selwyn Evans, ei wraig Ann a'i ferch 11 oed, Lisa, yn bresennol gyda Graham ac Ian mewn cyfarfod yng ngwesty Bryn Alaw yn y dref i ddadorchuddio'r gadair, Mehefin 6, 2007.

Wrth gyfeirio at y ffaith mai un o brif sefydliadau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, sy'n rhoi y goron dyfynnodd Mr Evans eiriau adnabyddus Daniel Owen, "Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais ond i'r dyn cyffredin" gan fynd ymlaen i ddweud fod y goron wedi ei rhoi gan y doeth a'r deallus ond mai rhodd 'y dyn cyffredin' yw'r gadair.

"Yr ydych wedi cael gan y doeth a'r deallus bythefnos yn ôl - rhaid ichi wneud y tro felly efo'r dyn cyffredin yn cyflwyno'r gadair ichi heno," meddai.

"Mae hi'n fraint arbennig ein bod ni'n cael y cyfle i gyflwyno'r gadair i ŵyl mor arbennig ac un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop sef yr Eisteddfod genedlaethol ac yn gwneud hynny trwy ddweud mai y bobl gyfan o fewn y sir, o fewn gogledd ddwyrain Cymru, ein cwsmeriaid ni, y bobl - y dyn - cyffredin ddoe a heddiw sy'n cyflwyno cadair 2007 ac mae'r rheini yn cynrychioli'r Gymru Gymraeg, y dysgwyr a'r di Gymraeg a'n cwsmeriaid ni oll," meddai.

Beth bynnag am y rhoddwyr mae'r gadair ei hun - a wnaed o onnen a derw oddi ar ystad Mostyn yn y sir - ymhell o fod yn un gyffredin gyda'i dyluniad yn gyfuniad o'r traddodiadol a'r modern.

"Yn wahanol ac yn effeithiol," oedd disgrifiad Aled Lloyd Davies, cadeirydd y Pwyllgor gwaith a ychwanegodd ei fod yn "gweld Moel Famau yn glir" yn amlinell ei chynllunwaith.

Disgrifiodd John Gwilym Jones, Cofiadur yr Orsedd a oedd yn bresennol yn y dadorchuddiad, y gadair fel "rhyfeddod i mi".

"Rwy'n gweld Moel Famau ac wedyn Afon Alun gyda'i throadau ac fe fydd unrhyw fardd sydd wedi ennill hon yn falch eithriadol ohoni. Bydd yn cael lle anrhydeddus mewn unrhyw gartref lle bynnag y bydd hi'n mynd ," meddai.

Symud i Gymru

Un a symudodd i fyw yng Nghymru ydi Graham Pickstock ond, dywedodd Selwyn Evans, ei fod yn un a barchodd Gymru ac anfon ei blant i Ysgol Maes Garmon.

Mae ganddo ei fusnes saer ei hun a'i fab, Ian, yn rhedeg ei fusnes gwneud dodrefn ei hun, Bizzare Furniture yn Rhuthun.

Dywedodd iddo ef a'i dad gydweithio a'i gilydd yn cynllunio a saernïo'r gadair.

"Yr oedd hi'n anrhydedd arbennig cael gwneud hon," meddai Ian a oedd cyn hyn wedi gwneud cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Rhuthun, 2006.

"Yr oeddem yn ofnus iawn wrth ymgymryd â'r gwaith," meddai ei dad gan ychwanegu i bethau fynd yn hwylus iawn unwaith iddynt ddechrau ar y gwaith.

Dywedodd ei bod yn naturiol iddynt gynnwys amlinell Moel Famau yn y cynllun a hwythau yn gweld y mynyddoedd hynny bob dydd ac ychwanegodd iddo gynnwys aber Afon Dyfrdwy hefyd.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý