Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Patagonia - cytgord newydd

10 Awst 2007

Elfed Roberts a Jeremy Wood o  Esquel

Gwahodd enillydd y Rhuban Glas

Bydd enillydd y Rhuban Glas yn cael gwahoddiad i'r Wladfa ym Mhatagonia fel rhan o gynllun i sicrhau cydweithrediad agosach rhwng Cymry Patagonia, Eisteddfod y Wladfa a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hyn yn deillio o gytundeb ehangach a arwyddwyd rhwng y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a Llywodraethwr Rhanbarth Chubut yn Ariannin, Mario Das Neves, yn gynharach eleni.

"Amcan y cytundeb yw datblygu cysylltiadau diwylliannol, addysgol, twristiaeth a busnes rhwng Cymru a'r Wladfa ac yn unol â'r cytundeb mae arweinwyr cymunedol a gwleidyddion Patagonia ar hyn o bryd yn astudio nifer o fentrau i ddatblygu'r cysylltiadau â Chymru," meddai datganiad ar ran yr Eisteddfod heddiw.

Estyn gwahoddiad

Bydd nawdd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Chubut a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn galluogi i enillydd Unawd y Rhuban Glas eleni fynd i Batagonia yn ystod Ebrill a Mai 2008.

Yna, bydd Côr yr Ŵyl eleni yn derbyn gwahoddiad ar gyfer 2009.

"Dyma'r tro cyntaf i enillydd unrhyw un o gystadlaethau'r Eisteddfod dderbyn gwobr mor urddasol, ac mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol yr Eisteddfod fel brand rhyngwladol a Phatagonia hefyd fel cyrchfan ryngwladol bwysig," meddai'r datganiad.

Cynrychiolwyd Llywodraeth Chubut yn yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug gan Jeremy Wood o Esquel.

"Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Chubut ar y fenter o greu cyfle arall i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Maer Trefelin, Dr Carlos Mantegna: eu bod yn edrych ymlaen at groesawu cerddorion mor bwysig.

Ac meddai Raul Fernandez, Gweinidog Tramor Masnach, Twristiaeth a Buddsoddi Chubut:

"Pan arwyddon ni'r Cytundeb yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni, roeddem yn benderfynol o ffocysu ar bob agwedd o'n cysylltiadau â Chymru, a hon yw'r fenter gyntaf o gyfres o fentrau fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf."



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý