|
|
Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage Hafan Cymru | ||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! Μύ |
StraeonSmentio iaith a diwylliant6 Awst 2007Cwmni sment yn noddi diwrnod Cafodd pennaeth y cwmni sy'n noddi'r eisteddfod heddiw ei atgoffa o ddeng mlynedd a dreuliodd yn Seland Newydd yn ystod ei ymweliad ΓΆ maes Yr Wyddgrug. Ac yntau heb erioed fod mewn eisteddfod o'r blaen dywedodd Mike Eberlin, Cyfarwyddwr Rheoli Castle Cement, ei fod yn gweld cryn debygrwydd rhwng yr hyn a welai yng Nghymru ΓΆ'r hyn a welodd o'r diwylliant Maori yn Seland Newydd. Yn fwyaf arbennig yr ymlyniad at iaith a diwylliant cynhennid. "Y mae ymrwymiad y Maori i'w diwylliant ac i'w hiaith yn debyg iawn i ymrwymiad y Cymry," meddai Mr Eberlin a fu'n gweithio yn y diwydian sment yn Seland Newydd. Cyfeiriodd hefyd at yr hawliau y mae'r Maoriaid wedi eu hennill gan gynnwys hawliau addysg. "Ac wrth gwrs, maen nhw'n hoff iawn o ganu ac o rygbi," meddai. Ychwanegodd fod clywed yr holl Gymraeg ar faes yr Eisteddfod yn ystod ei ymweliad cyntaf yn ei atgoffa o fod ymhlith gweithwyr Maori yn cymdeithasu yn eu iaith eu hunain. Yno, fel ag yng Nghymru, meddai, mae iaith yn rhan hanfodol o'r diwylliant. "Mae iaith yn gwbl allweddol - mae'n rhywbeth sy'n clymu gwlad wrth ei gilydd, ac rwyf wrth fy modd clywed y Gymraeg o'm cwmpas heddiw," meddai. Bu Castle Cement yn noddi'r Εµyl ers deng mlynedd ac mae ganddo waith cynhyrchu sment yn Paedswood ger Yr Wyddgrug. Categori
|
About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy Μύ |