Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Hybu Cymru drwy'r byd

8 Awst 2007

Dr Melya Hughes Crameri

Neges arweinydd y Cymry tramor

Apêl am i arweinwyr ieuenctid greu awyrgylch o gyfrifoldeb ymhlith pobl ifainc oedd un arweinydd cyfeillion yr Eisteddfod o dramor heddiw.

Ac am i Gymry tramor fod yn llysgenhadon dros eu gwlad.

Yn siarad mewn derbyniad yn syth cyn seremoni croesawu y Cymry o dramor yn y pafiliwn dywedodd y Dr Melya Hughes Crameri o'r Swisdir:

"Fy neges heddiw yw i arweinwyr ieuenctid ein gwlad ym myd addysg a gofal greu awyrgylch o awydd a chyfrifoldeb ymhlith yr ieuanc fel y byddant yn llunio dyfodol ar gyfer eu hunain i fod nid yn unig yn ddilynwyr ond yn arweinwyr yn y byd er lles trigolion ac er anrhydedd i genedl y Cymy."

Mae Dr Crameri yn wyddonydd ymchwil meddygol ac wedi teithio'r byd yn eang o'i chartref yn y Swistir ac ar hyn o bryd yn sefydlu cwmni ymchwil newydd sbon yng Nghaliffornia "er mwyn datblygu manteision gwerthfawr ar gyfer dynoliaeth."

A hithau wedi ymweld â phum cyfandir ers Eisteddfod Abertawe y llynedd dywedodd ei bod yn ddyletswydd ar rai fel hi i hyrwyddo Cymru a Chymreictod a diolchodd i'w rhieni, Eryl ac Edwena Hughes o Abergele, am sicrhau iddi fagwraeth ac addysg Gymraeg yn ystod ei phlentyndod yn Llundain.

"Mae lle i wledydd bychain fel Cymru i wneud eu rhan ac o fewn Cymru mae môr o dalent ac o allu," meddai.

"Fel y teithiaf y byd, caiff pawb wybod mai Cymraes ydwyf a dylai pob un ohonom sy'n Gymry yn byw dramor fod yn llysgenhadon ar ran Cymru er datblygu cysylltiadau a chydweithrediad ar gyfer y dyfodol," meddai.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý