Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

Â鶹ԼÅÄ VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Straeon

Canmol ymgyrch godi arian

Gorffennaf 2007

Ymdrech arbennig mewn ychydig amser

Disgrifwyd llwyddiant pobl Sir Y Fflint i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol 2007 fel "gwers i bob un fu'n darogan gwae" am yr Eisteddfod hon.

Mewn cyfnod hynod o fyr o gymharu ag eisteddfodau eraill cododd pobl Sir Y Fflint ymhell dros y gronfa leol o £297,500.

Ar y cyfrif diwethaf roedd £355,000 yn y pwrs.

"Mae'r gronfa leol wedi mynd yn dda ac yn dal i fynd," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod.

"Mi rydan ni o fewn dim i gasglu'r mwyaf sydd wedi cael ei gasglu fel cronfa leol ar gyfer unrhyw Eisteddfod sy'n anhygoel wrth feddwl mai cwta 18 mis yn ôl y cychwynnodd y gwaith casglu arian," meddai.

"Efo cyfraniad y cyngor lleol rydan ni wedi casglu £355,000 ac roedden ni'n anelu am £297,000," ychwanegodd.

Hyd yn oed cyn hyn yr oedd cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Dafydd Whittall, wedi dweud fod ymdrechion Sir Y Fflint yn destun edmygedd i ardaloedd eraill.

"Mae hyn yn wers i bob un a fu'n darogan gwae beth fyddai'n digwydd yn Sir Fflint," meddai mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth Ebrill 14.

O fewn cyrraedd

Yn cyflwyno adroddiad am Eisteddfod yr Wyddgrug ar ran cadeirydd y pwyllgor gwaith, Aled Lloyd Davies na allai fod yn bresennol, dywedodd cyd ysgrifennydd yr Eisteddfod, Eirian Jones, yr adeg honno:

"Y newydd da yw fod targed y gronfa leol o fewn cyrraedd a hynny mewn rhyw dri mis ar ddeg. Mae 95% o'r targed, sef £188,039, wedi ei godi tuag at y £197,500 a chyda y £100,000 a ddaw oddi wrth Gyngor Sir y Fflint mae pethau yn rhyfeddol o dda."

Ychwanegodd: "Rhaid talu teyrnged i'r ymateb o du y cynghorau tref a chymunedau lleol sydd wedi cyfrannu yn arbennig o dda gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug yn rhoi £10,000 yr wythnos hon, Y Fflint yn rhoi £7,000 a lleoedd ar y ffin fel Penyffordd a Higher Kinerton yn cyfrannu £3,000 yr un hefyd."

Mwy o nofelwyr nag erioed!

Yr oedd newyddion da hefyd ynglŷn â nifer y cystadleuwyr yn y cystadlaethau cyfansoddi gyda Gwobr Goffa Daniel Owen wedi derbyn y nifer fwyaf erioed o ymgeision, 12 nofel, yn nhref y nofelydd a goffeir!

Ymgeisiodd saith am y gadair a 29 am y Goron.

Dyma 'r niferoedd eraill:

  • Englyn - 29
  • Telyneg - 30
  • Carol plygain - 23
  • Y Fedal Ryddiaith - 13
  • Pennod o hunangofiant - 25
  • Tlws y Cerddor - 8
  • Emyn-dôn - 42
  • Cadair y Dysgwyr - 30
  • Tlws Rhyddiaith y Dysgwyr - 25

Yr oedd 566 o ymgeision i gyd gyda 306 o'r rheini yn yr adran lenyddol.

Gwerth £61,000 o docynnau sydd wedi eu gwerthu ar gyfer yr Eisteddfod hyn yn hyn.

Anodd denu nawdd

Ond yr oedd un cysgod dros yr holl newyddion da gydag Eirian Jones yn dweud ei bod yn mynd yn anos ac yn anos denu nawdd.

"Mae sefyllfa nawdd yn anodd, ar £250,000, ac mae hyn yn peri peth pryder gan ei bod yn mynd yn fwy fwy anoddach i gael cwmnïau i noddi y celfyddydau ac unrhyw beth diwylliannol.

"Yn anffodus, er bod llawer yn cyhoeddi elw ffantastig maent yn torri'n ôl ar nawdd," meddai.



About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý