Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Coeden Nadolig Gosod y Goeden Nadolig
Tybed sawl un ohonoch sydd yn mynd i'r drafferth o osod ac addurno coeden Nadolig eleni? Tybed hefyd sawl un ohonoch sydd yn gosod coeden Nadoig go iawn yn y tÅ·?

Traddodiad neu arferiad o gyfnod oes Fictoria yw gosod coeden Nadolig yn y tÅ· a'i haddurno ac mae'n debyg mai i'r Tywysog Albert y mae'r diolch am hynny.

Pan yn blentyn roedd hi'n arferiad mynd allan i chwilio am goeden go iawn rhai wythnosau cyn yr ŵyl a'i haddurno. Wrth gwrs dim ond rhan o'r gwaith oedd gosod y goeden Nadolig. Fel yr ai'r gwyliau heibio moeli oedd hanes y goeden gyda'r pinnau yn disgyn yn gawodydd i'r carped a'r angen glanhau'r carped yn ddyddiol. Yn yr un modd roedd hi'n draddodiad i dref Porthmadog dderbyn coeden Nadolig anferth a honno wedi ei mewnforio yn arbennig o Norwy neu Sweden i'w gosod yn y dref a'i haddurno â goleuadau dros y Nadolig.

Gyda threiglad y blynyddoedd newidiwyd y goeden go iawn yn y tÅ· i goeden artiffisial. Nid oedd hanner cymaint o waith gyda'r goeden artiffisial. Oedd, roedd yn rhaid sicrhau bod y goeden yn sefyll yn syth ond doedd ddim rhaid ei dyfrio na glanhau'r pinnau o'r carped.

Erbyn heddiw gellir cael pob math o goed Nadolig hyd yn oed addurniadau nad ydynt yn ymdebygu i goed o gwbl. Gellir cael coed o bob lliw a llun ac mae'n debyg mai'r coed opteg ffeibrau yw'r ffasiwn y dyddiau yma.

Fel arfer mae'r coed yn cael eu tyfu ar dir sydd â system ddyfrio arbennig iddo er mwyn atal y pridd rhag sychu yn ormodol. Mae'n debyg bod tua 400 o dyfwyr coed Nadolig ym Mhrydain. Y goeden fwyaf poblogaidd yw'r goeden pîn Nordmann sydd yn hawlio tua 40% o'r gwerthiant ym Mhrydain. Tybed am ba hyd fydd coeden Nadolig go iawn yn dal ei thir o du'r hinsawdd a thechnoleg?

Wrth gwrs erbyn heddiw nid yw'r goeden Nadolig yn diweddu ei hoes unwaith bydd y Nadolig drosodd. Gyda mwy a mwy o bwyslais ar ddiogelu amgylchedd mae sawl Cyngor yn gofyn am gael defnyddio'r coed Nadolig ymhellach. Bu amser pan fu hen goed Nadolig noeth a brown i'w gweld ymhob man yn amlach na pheidio mewn afon neu gamlas (bron â bod fel troli Tesco ddiarhebol!) Erbyn heddiw mae'r coed yn cael eu defnyddio yn eithaf dyfeisgar. Mae rhai ohonynt yn cael eu malurio'n fân er mwyn creu deunydd i atal chwyn tra bod eraill yn cael eu defnyddio i ddiogelu twyni tywod ar hyd yr arfordir.

Beth bynnag fydd eich mympwy eleni ym myd y coed Nadolig rwyf am ddymuno Nadolig llawen i chwi oll gan ddymuno hir oes i'r goeden Nadolig go iawn

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Dewi Lewis yn rhifyn Rhagfyr 2003 o bapur bro Llais


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý