Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Leon Evans o Gwmllyfnell gyda Gareth Thomas a Chris Horsman Leon yn dod â lwc i Gymru
Ebrill 2007
Leon Evans yn gwella wedi llawdriniaeth a rhagor o newyddion o Ysgol Cwmllyfnell.
Cafodd Leon Evans, Blwyddyn 6, driniaeth ar ei galon yn Ysbyty Plant Princess Diana, Birmingham, a braf iawn oedd ei weld yn dod nôl i'r ysgol, wedi gwella, ar ôl hanner tymor. Dewiswyd Leon Evans o Gwmllyfnell i fod yn fascot i dîm Cymru yn erbyn Lloegr wedi iddo wella ar ôl y llawdriniaeth.

Yn Ionawr fe ddaeth PC Bowen at Flwyddyn 1 a 2 i siarad am ei swydd ac am bobl eraill sy'n helpu. Fe gafodd y plant hwyl wrth wisgo'r dillad gwahanol. Wedyn aeth Blwyddyn 5 a 6 i lawr i Ysgol Cwmtawe i weld sioe 'Red Hot Cole' a gyflwynwyd gan Blant yr Ysgol Uwchradd. Cafwyd gwledd o ganu ac actio yno.

Aeth criw o blant ac athrawon i agoriad swyddogol y parc newydd yn y pentref. Agorwyd y parc gan y Maer Elwyn Jones. Yn bresennol hefyd roedd y Faeres Doreen Jones, Mr Alan Shields, Mr Eirion Richards a Mr Peter Lloyd. Babanod Ysgol Cwmllynfell oedd wedi croesawu Ysgolion Rhiwfawr, Cefn Bryn Brain, Ystradowen, Cwmtwrch, y Glyn, Gwaun Cae Gurwen a Chwmgors i Neuadd y Mileniwm yn y pentref i weld y Sioe Bypedau 'Fferm Ffal-di-ral'. Roedd tua 200 o blant yn mwynhau yno, yn gweld yr hyn a ddigwyddodd i'r fferm pan ganodd y ceiliog yn hwyr!

Yn Chwefror aethpwyd â phlant yr adran lau i lawr i'r Grand yn Abertawe i weld 'Magical Midsummer Mayhem', perfformiad gan gwmni Shakespeare for Kids o 'Midsummer Night's Dream'. Roedd y plant a'r athrawon wedi mwynhau'n fawr iawn, a'r sioe yn llawn bywyd, rhai o'r perfformwyr hyd yn oed yn mynd at draws y llwyfan ar sgêtiau rholio.

Treuliodd Molly Ubstell, Blwyddyn 2 a'i chwaer Poppy o'r Dosbarth Derbyn, dair wythnos yn Awstralia gyda'u mam, yn ymweld â thylwyth yno. Tybed faint o storïau sydd ganddynt am ochr draw'r byd?

Ar Ddydd Gŵyl Dewi fe ymgasglodd plant, athrawon, tylwyth a ffrindiau yng Nghapel Cwmllynfell i ddathlu'r Ŵyl drwy ganu, adrodd ac actio. Wedyn aethant dros yr heol i Neuadd y Pentref i orffen y prynhawn drwy gymryd rhan mewn dawnsio gwerin. Diolch i'r Gymdeithas Rhieni am sicrhau te a phice ar y maen i bawb, a diolch i Tesco am y rhodd o £20 tuag at gost y lluniaeth.

Ym mis Mawrth hefyd roedd hi'n braf iawn gweld y Brodyr Gregory, Henson y Draenog ac Eco Bwni yn diddori plant Ysgol Cwmllynfell a phlant Ysgolion Rhiwfawr a'r Glyn yn Neuadd y Mileniwm yn y pentref. Dysgwyd gwersi pwysig iawn y bore hwnnw am ddiogelwch yr heol ac ailgylchu drwy gân ac actio.

Aeth plant yr adran iau unwaith eto i'r Grand yn Abertawe, i weld sioe wyddonol o'r enw 'The Big Drip'. Cawsant eu difyrru gan y Cwmni 'Quantum Theatre' gyda'r actorion yn canu, dawnsio ac actio drama i ddangos pwysigrwydd defnyddiau yn ein bywydau. Yn y prynhawn aethant i Eglwys y Santes Fair i ymweld â'r adeilad hyfryd hwn yng nghanol Abertawe.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý