Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur y Cwm
Yn dathlu Capel y Baran, 1805 - 2005
Hydref 2005
Daeth y llwythau ynghyd, ar y 17eg o Orffennaf, i ddathlu daucanmlwyddiant yr Achos.
Roedd y capel bach yn orlawn, ac fe gafwyd oedfa fendithiol a chofiadwy o dan lywyddiaeth y Parchg. Walford Llewelyn. Dechreuodd y llywydd yr oedfa, drwy alw'r gynulleidfa i addoli. Ac wedi canu emyn, gyda Mr Cyril Jones wrth yr organ, fe gymerwyd at y rhannau arweiniol, gan y ddau ddiacon. Darllenodd Mr Islwyn Jacob, Trysorydd, yr eglwys am 37 o flynyddoedd, adnodau allan o bennod 35 o broffwydoliaeth Eseia a Salm 96.

Cafwyd gweddi ddwys gan Mr Islwyn Jones, Ysgrifennydd yr eglwys am 50 mlynedd.Dywedodd Mr Eifion Walters, un a fagwyd yn y Baran, air priodol ar ran yr Eglwys.Cafwyd cyfarchiad cynnes ar ran Cyfundeb Gorllewin Morgannwg, gan Mr Meirion Bell yntau hefyd â chysylltiad agos â'r Eglwys.

Hyfryd oedd cael cwmni'r Parchg Robin Williams, Maesteg a ofalodd am yr achos tra yn weinidog ym Mhantycrwys, Craig-Cefn-Parc. Mynegodd ei lawenydd o fod wedi gallu dod i'r dathliad, a'i atgofion melys am ei gyfnod yno fel bugail.

Y pregethwr gwadd, oedd y Parchg Gareth Morgan Jones, pregethodd yn rymus ar y testun "Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain", geiriau amserol i bob eglwys yn yr hinsawdd grefyddol bresennol.

Croesawyd pawb, i'r wledd oedd wedi ei pharatoi gan y gwragedd, yn aelodau a chyfeillion yr Achos. Brat oedd gweld y dyrfa, o tua 250 yn mwynhau yn y babell ac ar y borfa o gwmpas y Capel, ar ddiwrnod digwmwl a'r awelon cynnes yn eu hanwesu.

Dymuna'r Eglwys ddiolch o galon am y rhoddion hael ac am yr holl garedigrwydd a chymorth gan yr aelodau a chyfeillion yr Achos. Fe sicrhaodd hyn lwyddiant to hwnt i'r disgwyl, a'i wneud yn ddiwrnod a erys yn hir yn y cot, ac yn ddathliad teilwng o ddau can mlynedd o dystiolaeth Gristnogol ar fynydd y Baran.

T. Eifion Walters


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý